Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 29 Tachwedd 2017.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn blaenorol, Lywydd, ac ychwanegu fy nghydymdeimlad i'r rheini a effeithiwyd gan y llifogydd, nid yn unig y modurwyr a gafodd fwyaf o sylw yn y cyfryngau ond hefyd y nifer o fusnesau a pherchnogion cartrefi a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd diweddar?
Roedd yr Aelod yn iawn i ddweud mai cyfrifoldeb Cyngor Ynys Môn yw'r A545, ond mae fy swyddogion eisoes wedi cyfarfod â'r awdurdod lleol i drafod ffyrdd posibl o wella seilwaith y ffordd a'i gwytnwch, ac rwyf wedi bod yn gohebu â'r awdurdod lleol mewn perthynas â'r tirlithriad a gafwyd ar yr A545. Rwy'n falch o allu dweud fy mod eisoes wedi cadarnhau fy mharodrwydd i ystyried cais am gymorth ariannol i fynd i'r afael â phroblemau o'r fath, ac rwyf hefyd yn deall bod yr awdurdod lleol yn cael trafodaethau gyda Chyngor Tref Biwmares ar welliant posibl y gellid ei gyllido'n rhannol gan y cyngor tref hefyd. Gyda phob un ohonom yn gweithio gyda'n gilydd, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau mwy o ddiogelwch i bobl Biwmares, ac Ynys Môn yn wir, a sicrhau nad yw llifogydd yn y dyfodol yn effeithio ar bobl yn y ffordd y mae'r llifogydd diweddar hyn wedi'i wneud.