Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig, a gyflwynwyd yn fy enw i.
Unig ddiben y ddadl hon y prynhawn yma yw ceisio cytuno y dylid cynnal cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog cyn gynted â phosibl i ymchwilio i'r honiadau o fwlio gan gyn-aelodau a chynghorwyr i Lywodraeth Cymru, ac i ddatgelu'r gwir am y cyhuddiadau difrifol hyn.
Mae'r Aelodau i gyd yn ymwybodol o'r honiadau diweddar a wnaed yn erbyn Llywodraeth Cymru a swyddfa Prif Weinidog Cymru ac mae'n gwbl hanfodol fod yr honiadau hynny'n cael eu hymchwilio'n briodol mewn ffordd agored a thryloyw. Mae angen eglurder gan y Prif Weinidog yn awr mewn perthynas â'i sylwadau yn ystod yr wythnosau diwethaf, a chredaf ei bod yn gwbl briodol i hynny ddigwydd fel rhan o ymchwiliad a gynhelir gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
Cyn i mi ddatblygu fy nadl, a siarad yn benodol am y cynnig hwn, os caf droi at welliant y Llywodraeth, sy'n cyfeirio at ddatganiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ar benodi cynghorydd annibynnol i blismona cod y gweinidogion. Wrth gwrs, cafodd y cyhoeddiad hwnnw ei wneud ar ôl i'r ddadl hon gael ei chyflwyno ac er bod hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir, rydym yn parhau i gredu y dylai'r honiadau hyn fod yn destun craffu i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r cynnig trawsbleidiol a gyflwynwyd yn fy enw i, gydag Aled Roberts ac Elin Jones yn y Cynulliad blaenorol yn 2014, a oedd yn galw'n benodol am benodi dyfarnwr annibynnol er mwyn gwella tryloywder, a thrwy hynny, gynyddu hyder yn y rhai a etholir i swydd gyhoeddus. Gwrthododd Llywodraeth Cymru y cynnig hwnnw ar y pryd, ond mae'r Prif Weinidog bellach wedi dod i'r casgliad mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud bod amseriad hyn yn amheus iawn, ac mae'n eithaf amlwg mai pleidiau'r wrthblaid sydd wedi arwain ar hyn, ac mae'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru wedi dilyn.
Er fy mod yn croesawu tro pedol y Prif Weinidog, credaf o hyd ei bod yn briodol i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gynnal ymchwiliad i'r honiadau, oherwydd nid ydym yn gwybod, ar hyn o bryd, beth yw cylch gorchwyl ymchwiliad y cynghorydd annibynnol. O leiaf gyda'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, bydd yn gwbl dryloyw ac yn cael ei gynnal yn gyhoeddus.
Bydd proses y pwyllgor yn rhoi'r cyfle i'r Prif Weinidog nodi natur y cyhuddiadau a dderbyniodd ei swyddfa yn bendant a'r cyfle i ddarparu manylion ac eglurder mawr ei angen ynglŷn â rhai o'r sylwadau a wnaed yn ystod yr wythnosau diwethaf.