Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Yn achos ymchwiliad yn ymwneud ag achos posibl o dorri cod y gweinidogion, mae'n hollbwysig cael proses annibynnol drylwyr, a chredaf ei bod yn iawn y dylai unrhyw gwynion yn erbyn y Prif Weinidog sy'n ymwneud â chod y gweinidogion gael eu harchwilio gan gynghorydd annibynnol allanol. Mae hyn yn sicrhau ymchwiliad effeithiol, trylwyr a theg. Fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru, nid yw gweithdrefn o'r fath yn unigryw; mae'n digwydd eisoes yn yr Alban. Yn wir, mae pwysigrwydd person annibynnol i gynnal ymchwiliadau i achosion posibl o dorri'r cod ymddygiad eisoes yn cael ei gydnabod gan y Cynulliad hwn. Bydd pob Aelod yn ymwybodol fod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn gweithredu ar y sail mai'r comisiynydd, CF annibynnol, sy'n ymchwilio i gŵyn a adroddir wrth y comisiynydd safonau am Aelod Cynulliad. Nid y pwyllgor sy'n ymchwilio.
Felly, er mwyn ystyried unrhyw achos posibl o dorri cod y gweinidogion yn drylwyr ac yn deg, credaf ei bod hi'n hollol iawn ac yn gwbl synhwyrol i gynghorydd annibynnol ymchwilio i gwynion yn erbyn y Prif Weinidog, fel y mae'n deg i unigolyn annibynnol ymchwilio i gŵyn yn erbyn unrhyw Aelod Cynulliad.