Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf innau hefyd yn croesawu'r cyfle i drafod y mater pwysig hwn, sy'n dal i beri pryder i Aelodau ac i'w hetholwyr. Mae'n rhywbeth y cydnabûm yn fy natganiad ysgrifenedig ar 13 Mehefin, lle roeddwn yn nodi'r camau gweithredu roeddem yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem.
Mae pawb ohonom yn ymwybodol o'r caledi difrifol y gall methiannau inswleiddio waliau ceudod eu hachosi, yn enwedig i aelwydydd sy'n agored i niwed sy'n aml yn flaenoriaeth ar gyfer mesurau o'r fath. Dyma aelwydydd a oedd, gyda phob bwriad da, yn credu y byddai'n cadw eu cartrefi'n gynhesach a'u biliau tanwydd yn llai. Mae inswleiddio waliau ceudod yn ffordd gosteffeithiol o leihau biliau tanwydd pan fydd wedi'i osod yn gywir. Y Cavity Insulation Guarantee Agency, a elwir yn CIGA, yw'r darparwr gwarantau mwyaf ar gyfer gwaith inswleiddio waliau ceudod ac mae hefyd yn weithredwr y cynllun person cymwys o dan ein rheoliadau adeiladu.
Dengys data gan CIGA fod 67,630 o osodiadau inswleiddio waliau ceudod wedi'u cyflawni yng Nghymru o dan eu cynllun person cymwys rhwng ei gyflwyno ym mis Hydref 2010 a'r mis hwn. Ers 1995, mae CIGA wedi cyhoeddi dros 330,000 o warantau yma yng Nghymru. Mae eu data'n dangos bod ychydig dros 4,167 o gwynion wedi bod yng Nghymru, sy'n cyfateb i gyfradd gwyno o 1.26%. Er bod hynny, fel canran, yn fach, pan fydd problemau, gall y canlyniadau fod yn drychinebus, fel y nododd Mick. Mae camau effeithiol i unioni camweddau pan fo methiannau'n digwydd yn hollbwysig. Yn amlwg, o'r ohebiaeth rwy'n ei chael, mynegwyd amheuon ynglŷn â hyn, a dyma fu ffocws ein trafodaethau gyda CIGA.
Roedd fy natganiad ysgrifenedig yn nodi tri phrif faes sy'n peri pryder, sef: ansawdd asesiadau cyn inswleiddio, y wybodaeth a roddir i ddeiliaid tai, a'r broses unioni pan fydd pethau'n mynd o chwith. O 1 Hydref eleni, gwneuthum newidiadau i gryfhau'r gofynion ar gyfer cynlluniau person cymwys y rheoliadau adeiladu sy'n gyfrifol am inswleiddio waliau ceudod yng Nghymru. Bellach, mae un o'r prif newidiadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r arolwg adeiladu cyn inswleiddio gael ei wirio'n annibynnol cyn gwneud y gwaith inswleiddio. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn gwneud llawer i leihau achosion o inswleiddio eiddo anaddas. Mae newid pellach yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr y cynllun wneud gwaith goruchwylio mwy mynych. Unwaith eto, dylai hyn arwain at lai o inswleiddio heb gydymffurfiaeth a bydd hefyd yn nodi unrhyw ymarfer gwael gan gwmnïau gosod.
Mae pwysigrwydd cynnal a chadw eich eiddo ar ôl inswleiddio waliau ceudod yn allweddol. Mae CIGA wedi datblygu pecyn gofalu am eiddo i ddeiliaid tai sy'n cynghori ar yr angen i gynnal a chadw eu cartrefi. Mae hyn yn galonogol gan fod yn rhaid pwysleisio'r angen am waith cynnal a chadw i ddeiliad y tŷ cyn iddynt wneud y penderfyniad i gael y gwaith wedi'i wneud.
Cynigir inswleiddio waliau ceudod i rai o'r cartrefi tlotaf yng Nghymru, a rhaid egluro i aelwydydd beth yw eu rhwymedigaethau os ydynt i osgoi'r risg o fethiant ac annilysu eu gwarant. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae CIVALLI wedi ei gydnabod, ac mae'n faes rydym wedi ei drafod gyda CIGA.
Gan fy mod wedi crybwyll CIVALLI, fel eraill, hoffwn innau fachu ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i Pauline Saunders a'r gwaith y mae hi a'i grŵp wedi ei wneud dros y blynyddoedd i godi ymwybyddiaeth a helpu aelwydydd. Rwy'n falch iawn ei bod hi ac eraill wedi ymuno â ni yn yr oriel gyhoeddus heddiw.
Er y dylai'r camau gweithredu a nodais helpu i leihau nifer y methiannau yn y dyfodol, nid yw hyn yn helpu aelwydydd sydd eisoes yn wynebu methiant gwaith inswleiddio waliau ceudod. Felly, mae ymdrin â'r hawliadau etifeddol hyn wedi bod yn bwynt trafod allweddol gyda CIGA. Mae CIGA wedi gwneud newidiadau i'w systemau trin cwynion ac wedi penodi eiriolwr defnyddwyr. Er bod hyn yn galonogol, rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i barhau i gyfarfod â CIGA ac eraill i nodi camau cadarnhaol pellach mewn perthynas â chamau unioni i ddefnyddwyr, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i sicrhau bod camau unioni effeithiol ar gael.
Caiff y rhan fwyaf o waith inswleiddio waliau ceudod ei gyllido drwy raglenni a ariennir gan y Llywodraeth, ac un o'r rhaglenni mwyaf yw cynllun rhwymedigaeth cwmni ynni Llywodraeth y DU a'i ragflaenwyr. Mae adolygiad 'Each Home Counts' a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU wedi arwain at raglen waith a ddechreuodd yn gynharach yn y flwyddyn i ddatblygu ymarfer gorau o ran cynghori a diogelu defnyddwyr, safonau a gorfodi ar gyfer ystod o fesurau arbed ynni yn y cartref ac ynni adnewyddadwy. Ceir disgwyl eiddgar am y gwaith hwn, os yw'n cyflawni'r hyn a ddisgwylir, ac yn cael ei fabwysiadu ar gyfer rhwymedigaeth cwmni ynni, gan symud pethau pwysig yn ei blaenau'n fawr.
Eisoes mae gan ein dau gynllun, Arbed a Nyth, brosesau rheoli ansawdd cadarn, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth y DU yn mabwysiadu hyn wrth symud y gwaith yn ei flaen. Mae'n bwysig ein bod yn deall pryd y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau a pha mor fuan y bydd yn cael effaith. Byddaf yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn am amserlenni clir iawn.
Soniodd Russell George am un o'i etholwyr yn benodol, a buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallech ysgrifennu ataf gyda'r manylion penodol er mwyn i mi allu ymchwilio i'r mater.
Gellir cynnwys inswleiddio waliau ceudod hefyd yn rhan o becyn o fesurau a gyflawnir o dan gynlluniau Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, Nyth ac Arbed. Fodd bynnag, mae ein dull o weithredu, drwy ddefnyddio asesydd cymwys i bennu pa fesurau effeithlonrwydd ynni a argymhellir ar gyfer pob eiddo, yn sicrhau mai'r mesurau mwyaf priodol yn unig a roddir ar waith. Nid ydym yn caniatáu galwadau diwahoddiad ychwaith. Rydym yn cryfhau'r broses ymhellach ac yn datblygu ein cynlluniau Nyth ac Arbed newydd a gaiff eu cyflwyno o fis Ebrill 2018 ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys gofynion llym ar gyfer gwarantau, prosesau monitro a sicrhau ansawdd cadarn ac arolygiadau o'r holl waith inswleiddio. Bydd data newydd am gyflwr ac effeithlonrwydd ynni pob math o dai yng Nghymru ar gael fel rhan o'r arolwg o gyflwr tai Cymru 2017-18. Byddwn yn adolygu'r data hwn i weld beth y mae'n ei ddweud wrthym am bresenoldeb inswleiddio waliau ceudod a phroblemau lleithder yng nghartrefi Cymru, a pha gamau pellach y gallwn eu cymryd yng ngoleuni hyn.
Soniodd Mick Antoniw yn ei sylwadau agoriadol am bwerau pellach y gallem fod yn eu cael ac a allai ein helpu yn y maes hwn. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw bwerau a fydd yn dod inni yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2017 y flwyddyn nesaf mewn perthynas ag ynni a fyddai'n helpu yn y maes hwn. Mae'r rhan fwyaf o'r pwerau a gawn yn ymwneud â chydsyniad a chynhyrchiant.
Felly, i grynhoi, Ddirprwy Lywydd, byddaf i a fy nghyd-Aelodau yn y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig hwn. Byddaf yn parhau i weithio gyda'r rheini sy'n gosod safonau, Llywodraeth y DU, CIGA ac eraill, i hyrwyddo camau effeithiol i ddiogelu defnyddwyr ac ymarfer da drwy ein rheoliadau adeiladu, cynlluniau a arweinir gan y DU a'r rhai a ddarparir yn uniongyrchol yma yng Nghymru. Diolch.