Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Mae maint ystâd y bwrdd yn enfawr. Mae'n cynnwys tri ysbyty dosbarth, 22 o ysbytai cymunedol ac acíwt eraill, 19 o ganolfannau meddygol a 121 o bractisau meddygon teulu. Ac fel y gwn wrth yrru i fyny yno, mae mewn ardal ddaearyddol eithaf amrywiol a gall gymryd oriau yn llythrennol i fynd o un ochr i'r llall.
Fodd bynnag, dylem hefyd atgoffa ein hunain, gan gydnabod yr heriau sy'n wynebu sefydliad o'r maint hwn, fod y bwrdd iechyd wedi bod o dan fesurau arbennig ers bron i ddwy flynedd a hanner bellach—ers mis Mehefin 2015. Penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru oedd hwn, a heddiw rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariad cynhwysfawr ar statws y bwrdd iechyd ar hyn o bryd. Er mwyn ei staff a'r cleifion yn ogystal â'r cyhoedd yng ngogledd Cymru, rhaid i ni wybod pa mor agos rydym i weld y bwrdd yn symud allan o fesurau arbennig a pha welliannau o bwys a gafwyd ers gosod mesurau arbennig 29 mis yn ôl.
Mae hyn yn bwysig oherwydd, er ei fod o dan y ffurf uchaf o reolaeth gan Llywodraeth Cymru, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar ei hôl hi o gymharu â chwe bwrdd iechyd arall Cymru ar nifer o ddangosyddion perfformiad mawr. Yn ogystal â bod â'r diffyg rhagamcanol mwyaf yn y gyllideb, mae amseroedd aros am driniaethau cyffredin wedi ymestyn i'r entrychion, gyda nifer y cleifion sy'n aros yn hwy na 52 wythnos am lawdriniaethau cyffredin wedi codi 2,550 y cant, sy'n syfrdanol, ac roedd 2,491 o unigolion ar y rhestr honno ym mis Medi 2017. O gofio bod mwy na £10 miliwn yn ychwanegol wedi'i wario ar gadw'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig a bod ei orwariant ar y gyllideb ar y ffordd i gyrraedd £50 miliwn, rwy'n bryderus ein bod yn dal heb weld cynllun cydlynol ar gyfer gwella gan y Llywodraeth, gan Ysgrifennydd y Cabinet a chan ei dîm.
Bydd cyfranwyr eraill yn edrych yn fanylach ar rai o'r materion allweddol sy'n effeithio ar Betsi Cadwaladr. Maent yn ACau lleol sydd, gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau, yn defnyddio'r gwasanaeth iechyd y mae'r ymddiriedolaeth yn ei gynnig yn rheolaidd, ac maent yn gweld yn eu meddygfeydd yn rheolaidd pa broblemau y mae cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth iechyd lleol yn eu hwynebu. Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw at un mater allweddol y teimlaf ei fod yn crisialu'r neges hon: rhoddwyd cynlluniau 100 diwrnod ar waith er mwyn cyflawni gwelliannau ar frys, ond dros ddwy flynedd ers sefydlu'r fframwaith gwella, erys pryderon difrifol am allu'r bwrdd iechyd i reoli ei arian ac i ddarparu gwasanaethau diogel, cynaliadwy ac amserol i bobl gogledd Cymru. Yn ogystal â hyn mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cynnal mwy na 90 o gyfarfodydd neu drafodaethau gyda'r bwrdd iechyd ers iddynt gael eu rhoi mewn mesurau arbennig, yn ogystal â chyfarfodydd a gynhaliwyd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, ac eto nid yw'n ymddangos bod cyfeiriad strategol trosfwaol cydlynus i ymdrechion y bwrdd i ddod allan o fesurau arbennig.
Ac nid Betsi Cadwaladr yn unig sydd o dan y cwmwl hwn wrth gwrs. Yn sicr nid oes angen i mi atgoffa'r Aelodau fod tri bwrdd iechyd arall yn gweithio o dan y lefel ymyrraeth a dargedir o gymorth gan y Llywodraeth—sef byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda.
Felly, soniwn am fesurau arbennig ac ymyriadau wedi'u targedu, ond beth y mae'r termau hyn yn ei olygu mewn gwirionedd i bobl ar lawr gwlad? Dylai mesurau arbennig gyfeirio at amrywiaeth o gamau gweithredu y gellir eu cymryd i wella byrddau iechyd mewn amgylchiadau eithriadol, h.y. fel dewis olaf, ac mae'n digwydd pan nad yw bwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth yn gwneud y gwelliannau a ddisgwylir a cheir pryderon bod yr arweinyddiaeth a'r rheolwyr angen cymorth allanol. Daw ymyrraeth wedi'i thargedu un lefel yn is na'r mesurau arbennig ac mae'n golygu y gall Llywodraeth Cymru roi camau ar waith sy'n cynnwys trefnu mentora ar gyfer aelodau unigol o'r bwrdd neu'r tîm gweithredol a phenodi unigolion profiadol sydd â'r sgiliau clinigol a/neu sgiliau llywodraethu ar y bwrdd am gyfnod cyfyngedig.
Mae dogfen trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru Llywodraeth Cymru, a gynhyrchwyd yn 2014, yn amlinellu'r ffyrdd y gellir isgyfeirio ymyriadau. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i'r Cynulliad beth yw'r meini prawf isgyfeirio ar gyfer Betsi Cadwaladr, a ydynt wedi eu bodloni, ac os nad ydynt, pa bryd y mae disgwyl iddynt gael eu bodloni? Gofynnaf y cwestiwn yn sgil ymateb a gefais i gwestiwn ysgrifenedig ar 23 Tachwedd, yn gofyn am hyder Ysgrifennydd y Cabinet fod byrddau iechyd Cymru yn dangos gwell perfformiad ariannol. Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Rwy'n siomedig nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dangos y camau gweithredu angenrheidiol hyd yma i gael cyfanswm rheolaeth. Mae fy swyddogion wedi comisiynu adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethu ariannol y Bwrdd Iechyd sydd ar waith ar hyn o bryd.
Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch egluro i mi beth yn union a olygir wrth 'gyfanswm rheolaeth'? Yr hyn sy'n fy mhoeni yw bod gennych fwrdd iechyd yma sydd o dan fesurau arbennig ac eto mae angen cael rhagor o ymyrraeth i fynd i'r afael â phroblemau ariannol. Yn sicr, ar ôl yr holl amser ac arian a fwydwyd i mewn i'r bwrdd iechyd hwn yn ystod ei amser o dan fesurau arbennig, esgeuluso dyletswydd yw methu sylweddoli tan yn awr fod angen cynnal adolygiad annibynnol o'r trefniadau llywodraethu ariannol. Mae'n ymddangos i mi y dylid bod wedi cynnal archwiliad ariannol ar ddechrau'r broses hon, Ysgrifennydd y Cabinet, nid 30 mis yn ddiweddarach. Faint yn waeth y mae angen i bethau fynd cyn i'r sefyllfa hon gael y sylw manwl y mae cymaint o'i angen? Yn sicr ni fydd hyn ond yn oedi'r broses o adael mesurau arbennig i'r bwrdd iechyd. Ac mae hyn yn hanfodol, oherwydd, tra bo'r bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig, caiff ei enw da ei lychwino, mae ei staff yn digalonni, mae'n ei chael hi'n anodd recriwtio pobl, a cheir amrywiaeth eang o effeithiau o ganlyniad i fod o dan broses y mesurau arbennig.
Nid oes gennyf broblem o gwbl gyda chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, gyda chi fel Llywodraeth Cymru, yn edrych ar rywbeth a dweud, 'Nid yw'n perfformio'n ddigon da—rhaid i ni ei wella; fe'i gosodwn o dan fesurau arbennig.' Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Ond yr hyn nad wyf yn credu y bydd neb arall yn ei dderbyn yw beth y mae'r mesurau arbennig hynny'n ei olygu, oherwydd, ar ôl bron i 30 mis, dylem fod wedi gweld rhywfaint o welliant, ac nid yw'r lefel honno o welliant yno. Buaswn yn awgrymu wrth y Llywodraeth, mewn gwirionedd, fod y broblem hon yn eich wynebu drwy eich holl ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, oherwydd rydym wedi gweld addysg, rydym wedi gweld cynghorau, yn cael eu rhoi o dan fesurau arbennig, o dan fyrddau adolygu ar gyfer cynghori'r Gweinidog, o dan ymyriadau wedi'u targedu, ac nid wyf yn credu bod cydlyniad ynglŷn â'r hyn y mae mesurau arbennig yn ei olygu.
Nodais y dylai fod llwybrau clir i mewn ac allan o fesurau arbennig, a ffyrdd clir o isgyfeirio, ac mae diffyg eglurder o'r fath yn arwain at ddryswch go iawn i bobl Cymru, ac yn yr achos hwn, i bobl gogledd Cymru. Credaf mai cefnogaeth arwynebol a rowch i ymyrraeth; credaf fod angen cael dull cyffredin o weithredu ar draws adrannau, a dealltwriaeth glir a diffiniadwy ynglŷn â beth yw'r ymyrraeth uchaf mewn bwrdd iechyd. Credaf y dylai mesurau arbennig fod yn opsiwn olaf; dylai olygu gwaith ar lawr gwlad, adolygiad trylwyr o bob agwedd ar y bwrdd iechyd—nid adolygu agweddau, wyddoch chi, pan fyddwch hanner ffordd drwodd, neu yn yr achos hwn, 30 mis yn ddiweddarach—a dylai fod gennym ffordd eglur i'r byrddau iechyd, a'r bwrdd iechyd penodol hwn, allu symud allan o fesurau arbennig. A gofynnaf i chi wrando ar ein dadl heddiw, gwrando ar y sylwadau y mae fy nghyd-Aelodau yn mynd i'w gwneud, gan eu bod ar y rheng flaen, ac yn gallu cynnig cynllun clir a chydlynol y gall pob un ohonom ei ddeall.
Nid yw mesurau arbennig yn dda i ddim os yw'n golygu 90 o sgyrsiau â chi a'ch swyddogion a dim mwy na hynny. Mae'n rhaid iddo fod yn weladwy, ac os yw bwrdd iechyd yn cael trafferth i'r fath raddau fel eich bod bellach yn gorfod comisiynu adolygiad o'r trefniadau llywodraethu ariannol, rhaid i chi roi milwyr profiadol yn y rheng flaen, oherwydd fel arall nid ydym yn mynd i ennill y frwydr dros iechyd da a lefelau da o ofal iechyd yng ngogledd Cymru.