Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Mae perfformiad bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, boed yn dda neu fel arall, yn effeithio'n uniongyrchol iawn ar fy etholwyr yn Aberconwy ac ar hyn o bryd mae'n ffurfio llawer iawn o'r gwaith achos. Mae'n werth nodi, yn y bwrdd hwn, fod cyfraddau achosion o MRSA ac MSSA yn is nag yn unman arall yng Nghymru, ac mae amseroedd galwadau ambiwlans coch a thriniaeth canser o fewn 31 diwrnod yn ail orau yng Nghymru. A lle y gwelwn ymarfer da, rydym am ddathlu hynny ac rydym yn ei gymeradwyo.
Fodd bynnag, bydd y materion a godir yn fy nghyfraniad heddiw yn sicr yn tynnu sylw at fethiannau parhaus a llawer o feirniadaeth o Ysgrifennydd iechyd Llywodraeth Cymru. Ddirprwy Lywydd, ym mis Ionawr eleni, soniais am brinder meddygon teulu yn y Siambr hon. Rydym wedi gweld meddygfa ar ôl meddygfa'n cau yn Aberconwy, ac eto roedd hwn yn faes gwelliant yn rhan o broses y mesurau arbennig. Ym mis Chwefror, soniais am amseroedd aros orthopedeg a thrawma. Ers ymyrraeth y Llywodraeth, mae nifer y cleifion sy'n aros dros flwyddyn am lawdriniaeth wedi codi 2,127 y cant i 1,782. Mae gennyf etholwyr yn aros 130 o wythnosau—dyna ddwy flynedd a hanner—am yr hyn yr ystyrir ei bod yn driniaeth frys a hanfodol, gan wynebu pob dydd mewn poen enbyd a gwendid go iawn.
Ym mis Mawrth, soniais am bryderon ynglŷn â chymorth ar gyfer cleifion iechyd meddwl. Bu'n rhaid i mi sôn am hynny eto ddoe wrth y Prif Weinidog. Roeddwn yn pryderu wrth glywed yn ddiweddar y gallai claf sydd angen ymyrraeth seiciatrig ddifrifol wynebu amseroedd aros annerbyniol o hyd at 18 mis. Mae gennyf achos arall lle mae mynediad at driniaeth iechyd meddwl mor ddrwg fel bod un o fy etholwyr wedi ceisio lladd eu hunain o'r blaen.
Materion gofal iechyd yng ngogledd Cymru y bu'n rhaid i mi dynnu sylw atynt yn gyson, fis ar ôl mis, wythnos ar ôl wythnos—ac eto, dyma ni, ar ddiwedd mis Tachwedd 2017, ac fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Angela Burns, 30 mis ar ôl ymyriadau gan eich Llywodraeth chi a gennych chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am ddarparu gofal iechyd o ansawdd da ledled Cymru.
Ni welwn unrhyw welliant amlwg, gyda'r bwrdd bellach yn wynebu'r diffyg rhagamcanol uchaf yn y gyllideb ac yn llusgo ar ôl gweddill Cymru'n ddifrifol ar nifer o ddangosyddion perfformiad lefel uchel. Y flwyddyn nesaf, bydd yn braf gweld perfformiad gwell a pheidio â gorfod dal ati i dynnu sylw at broblemau ar ran fy etholwyr—ar ran pob un o'r 3,368 o gleifion sy'n wynebu arhosiad o 100 wythnos am lawdriniaeth orthopedig ddewisol, i fy etholwr oedrannus sydd nid yn unig wedi wynebu aros am dair blynedd bron am golonosgopi, ond y dwysawyd eu rhwystredigaeth drwy orfod aros pum mis am ateb byr gan y bwrdd iechyd.
Nawr, hoffwn dynnu sylw at y staff sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd, a'u canmol. Byddaf yn teimlo'n flin iawn drostynt, oherwydd maent yn ysgwyddo llawer o'r baich yn sgil y ffaith eich bod yn methu yn eich perfformiad. Maent yn gweithio o dan bwysau eithafol ac yn cyflawni tasg enfawr, a hynny'n ddiddiolch yn aml. Ond rwy'n pryderu ynglŷn ag enghreifftiau o staff clinigol sy'n gweithio sifftiau 24 awr. Mae astudiaethau wedi dangos effeithiau niweidiol diffyg cwsg ar berfformiad a gallu i ganolbwyntio, ac mae sefyllfaoedd o'r fath yn achosi niwed difrifol, yn rhoi cleifion a staff mewn perygl. Gwelsom yn y mis diwethaf nifer y marwolaethau eleni a achoswyd gan ddigwyddiadau anfwriadol neu annisgwyl—41. Cofnodwyd bod mwy na hanner y rheini wedi digwydd ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr. Ddirprwy Lywydd, dyna 41 o gleifion, 41 o deuluoedd, a'u hanwyliaid a ddrylliwyd gan golled, galar a thrallod annioddefol.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi tynnu eich sylw at y mater hwn sawl gwaith, ac ar yr adegau pan wyf wedi ei ddwyn i sylw'r Prif Weinidog, rydych yn eistedd yno, yn aml iawn yn ysgwyd eich pen. Ar ddechrau'r ddadl hon—nid ydych yn gwrando yn awr hyd yn oed. Ar ddechrau'r ddadl hon, nid oeddech yn ddigon cwrtais i wrando ar fy nghyd-Aelod, llefarydd ein gwrthblaid. A dweud y gwir, nid wyf yn siŵr pa mor o ddifrif rydych chi ynglŷn â'ch rôl. Mae wedi bod yn aneglur o'r cychwyn sut yn union y mae'r Llywodraeth yn rheoli'r bwrdd o dan fesurau arbennig, felly rydym yn galw arnoch heddiw i amlinellu pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau gyda rhywfaint o eglurder nad yw'r ansicrwydd ariannol ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn tanseilio'r modd y darparir gwasanaethau, ac i gyhoeddi cynllun gweithredu clir i'r bwrdd iechyd allu dychwelyd i'w statws arferol.
Mae'r sefyllfa fel y mae yn anghynaliadwy, ac yn hollol annerbyniol mewn gwirionedd. Rydym yn edrych ar draws y ffin ac yn gweld perfformiad cymaint gwell. Pam y dylem gael loteri cod post? Pam y dylai fy etholwyr, ac unrhyw etholwr arall sy'n byw yng ngogledd Cymru, orfod dioddef ymarfer gwael ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd gwael dros ben ac nad yw'n gallu gwneud ei waith, a dweud y gwir?