Part of the debate – Senedd Cymru am 6:58 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Roedd Llafur yn mynd i wneud y pethau hyn pe bawn wedi ennill yr etholiad cyffredinol. Rhoesoch lawer o bethau yn eich maniffesto ar gyfer etholiad diwethaf y Cynulliad. A ydym yn eich dwyn i gyfrif am y rhai nad ydych wedi'u cyflawni am nad ydych mewn grym?
A gaf fi wneud un pwynt pwysig iawn i gloi? Yn dilyn y ddadl ddoe ar entrepreneuriaeth, oni bai y gwneir y contractau'n ddigon bach i gwmnïau o Gymru wneud cais amdanynt, ni fydd manteision llawn yn cael eu teimlo yng Nghymru.
Yn olaf, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cam â phobl Cymru a Phrydain.