Part of the debate – Senedd Cymru am 7:32 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rwy'n credu bod y ddadl hon wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn y modd y mae wedi nodi rhai o'r rhaniadau ar gwestiynau polisi economaidd ein cyfnod ni. Yn amlwg, mae gennym fersiynau amrywiol o'r optimistiaeth afresymol a glywsom ar y meinciau gyferbyn. Gallwn ddyfynnu unrhyw nifer o felinau trafod. Dyfynnwyd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar feinciau'r Torïaid. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud na fyddwn yn dychwelyd at lefel cyn yr argyfwng o ddyled genedlaethol fel cyfran o incwm tan y 2060au. Mae cynhyrchiant ar ei lefel waethaf o ran ei duedd ers dechrau'r 1800au. Faint o besimistiaeth rydych am ei wadu? Mae'r ffigurau'n siarad drostynt eu hunain, a dweud y gwir. Os ydych yn meddwl bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhy negyddol, mae rhagolwg y Seyfydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd hyd yn oed yn is. Morgan Stanley—hen gyff y system gyfalafol—maent hwy oddeutu hanner y lefel y mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn ei ragweld ar gyfer 2019. Dyna'r realiti, y realiti economaidd sy'n ein hwynebu.
Ceir rhaniadau eraill. Rydym yn byw mewn cyfnod diddorol pan fydd Andy Haldane o Fanc Lloegr yn dweud mai cwestiwn mawr ein cyfnod ni yw cyfran llafur yn yr economi, gan swnio bron fel economegydd o'r hen ysgol Farcsaidd. Dyna'r cwestiwn sylfaenol. Yn fyd-eang, mae cyfran llafur yn yr economi'n gostwng, a dyna pam y buaswn yn apelio ar y rhai ar y meinciau Llafur. Mae angen i chi ganolbwyntio ar y cwestiwn hwn. Yn amlwg, nid ydym yn mynd i allu datrys y broblem hon ar ein pen ein hunain—nid ydym yn dadlau hynny—ond mae cyfle i ni arwain yma yng Nghymru. Mae'n rhaid mynd i'r afael â'r cwestiwn ynglŷn â chyfran cyflogau sy'n disgyn yn yr economi, a gallech grisialu'r ddadl ehangach honno mewn gwirionedd, fel y mae Llywodraeth yr Alban yn ei wneud, drwy edrych i weld sut y gallwn gael gwared ar y cap yma yng Nghymru. Ceir rhai awgrymiadau ymarferol—mae eraill ar gael—ynglŷn â sut y gellid ei wneud. Rwy'n eich annog ar y meinciau Llafur i edrych eto ar y cwestiwn hwn. [Torri ar draws.] Gwnaf, yn sicr.