Part of the debate – Senedd Cymru am 7:22 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. I ddechrau, fe hoffwn i groesawu'r cyfle i ymateb i'r drafodaeth hon ar gyllideb y Deyrnas Unedig yr wythnos diwethaf. Cyn trafod rhai agweddau penodol o'r gyllideb a'r hyn y mae'n ei olygu i Gymru, rydw i am ddweud gair am y darlun ehangach. Nid ydy polisi cyni San Steffan yn gweithio, fel mae pobl ledled y Siambr wedi cydnabod. Mae'n niweidio economi'r Deyrnas Unedig yn gyfan.