8. Dadl Plaid Cymru: Cyllideb Llywodraeth y DU a Chymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:43 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 6:43, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. O, Adam, Adam, Adam, rhaid imi ddweud, fe fwynheias eich araith ychydig yn fwy na'r cynnig ei hun. Fe wnaethoch o leiaf gyrraedd y llygedyn o oleuni ar y diwedd, gan ei gwneud hi'n werth i mi godi yn y bore, mae'n debyg, a dod i'r gwaith, ac fe sonioch am y gyllideb ar y diwedd.

Edrychwch, gan gyfeirio at y cynnig ei hun, rwy'n hoffi bod yn gadarnhaol ynglŷn â rhai agweddau ar gynigion ac nid oedd llawer yn gadarnhaol yn y cynnig hwn, a bod yn deg. Nid wyf yn credu y buasai Llywodraeth bresennol y DU yn datgan mai hi yw'r peth gorau ers cyn cof, ond rwy'n meddwl ei bod yn haeddu ychydig mwy o glod nag a roesoch iddi yno o leiaf, ac yn y cynnig hwn.

Nid fy ngwaith i yw dod yma i amddiffyn Llywodraeth y DU, er mai fy mhlaid sydd mewn grym yno. Fy ngwaith i yw dod yma i gynrychioli fy etholwyr yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac i siarad am yr hyn y gallwn ei wneud yma yn y Siambr hon. A dyna pam roeddwn braidd yn siomedig ynglŷn â chywair y cynnig hwn, oherwydd rwy'n credu ei fod yn oedi braidd ar y negyddol ac nid yw'n sôn am y cadarnhaol: yr hyn y gallwn ei wneud. [Torri ar draws.]

Os cawn droi at ein gwelliannau, rydym eisiau nodi'r £1.2 biliwn—[Torri ar draws.] Byddaf yn sôn amdanoch mewn ychydig, Simon, peidiwch â phoeni. Hoffem nodi'r cynnydd o £1.2 biliwn yng nghyllideb Cymru dros bedair blynedd o ganlyniad i'r gyllideb hon. Nawr, rwy'n gwybod fy mod yn mynd i ragweld ymateb yr Ysgrifennydd cyllid yn nes ymlaen drwy ddweud bod cyfran o'r arian hwnnw'n gyfalaf trafodiadau ariannol. Soniwyd am hyn gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn ystod y sesiwn a gawsom yn gynharach. Mae'n derm sydd wedi codi'i ben ac nid wyf yn siŵr fod pobl yn ei drafod wrth y bwrdd brecwast ledled Cymru, ond fel y bydd yr Ysgrifennydd cyllid yn sicr o ddweud wrthym, mae'n ei gwneud yn anos ei ddefnyddio. Ond fel rwy'n siŵr y buasai'r Ysgrifennydd cyllid yn cydnabod, o leiaf mae'n fwy o arian yn dod i ni nag a oedd gennym o'r blaen, ac mae hynny'n allweddol i'r gyllideb hon: mae arian ychwanegol yn dod i Gymru, felly nid yw pethau'n gwbl ddiobaith.

Wrth gwrs, rhaid inni groesawu'r gyfran o'r cyllid ychwanegol sy'n dod i Gymru o ganlyniad uniongyrchol i fframwaith cyllidol yr ymladdwyd yn galed amdano ac a negodwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn deg iawn, nid yw'n swm anferth o arian o safbwynt cyllideb Cymru yn ei chyfanrwydd, ond mae'n arian ychwanegol na fuasai wedi digwydd heb y cytundeb hwn, ac rwy'n talu teyrnged iddo yn y trafodaethau hynny, ac yn wir i Lywodraeth y DU. Rwy'n falch fy mod wedi cael rôl fach i'w chwarae ar hyd y ffordd, yn helpu gyda'r broses honno.

Nid wyf hyd yn oed yn dweud y dylid cau'r drws ar ddiwygio Barnett yn y dyfodol. Credaf fod yna achos o hyd, nad ydym yn tueddu i siarad amdano mwyach, ond mae yna achos hirdymor, rwy'n credu, dros adolygu'r mecanweithiau sy'n ariannu Cymru'n gyffredinol. Efallai y gellir gwneud hynny ar y cyd â'r fframwaith cyllidol, oherwydd credaf y buasai pob un ohonom yma am gael y fargen orau sy'n bosibl i Gymru, a dros amser, mae dulliau ariannu'n dyddio. Felly, gobeithio y gellir trafod hynny yn y dyfodol pan fyddwn yn edrych ar ddyraniadau cyllideb y DU.

Wrth gwrs, mae ein gwelliant hefyd yn nodi cynnydd a wnaed ar fargen twf gogledd Cymru hefyd. Rydym wedi galw am hynny ers amser hir. Mae yn y gyllideb hon, felly mae'n newyddion da. Ni chlywais i hynny'n cael sylw—efallai fy mod wedi colli hynny. Nid oedd i'w weld yn cael ei grybwyll yn sylwadau Adam Price. Nid oedd i'w weld yn cael ei grybwyll yn y cynnig, ychwaith. Pa mor aml y mae Aelodau yn y Siambr hon, yn enwedig Aelodau o ogledd Cymru, yn sefyll ar eu traed i ddweud mewn dadleuon nad ydym yn credu bod digon yn mynd i ogledd y wlad, ac nad oes digon yn mynd i rannau gwledig o Gymru? Felly, dyma enghraifft lle y ceir ffocws ar ran o Gymru. Mae Adam Price yn iawn, mae rhannau o Gymru wedi cael eu hesgeuluso yn y gorffennol, a dyma ymgais, o leiaf, i unioni hynny mewn rhyw ffordd.

Clywais yr hyn a ddywedoch am y cynnydd, neu'r diffyg cynnydd fel roeddech chi'n ei weld, ar forlyn llanw bae Abertawe, a byddwn yn parhau i alw am hynny. Credwn fod y morlyn llanw yn ddarn pwysig iawn o seilwaith ar gyfer economi Cymru. Iawn, efallai nad yw wedi bod yn flaenllaw yn y gyllideb hon, ond mae'n hysbys ein bod yn dal i alw am y morlyn llanw hwnnw—ac nid y blaid hon yn unig, wrth gwrs, ond y blaid gyferbyn a phlaid y Llywodraeth. Mae'n agos iawn at galon Mike Hedges yn ogystal, rwy'n gwybod, felly byddwn yn parhau i edrych am gynnydd ar hynny.

Wrth gwrs, rydym yn cael trydaneiddio rheilffordd y Great Western—i Gaerdydd, rwy'n cyfaddef, cyn i chi neidio ar eich traed. Mae tollau Hafren yn cael eu dileu. Pa mor hir y buom yn galw am hynny? Mae hynny'n newyddion da, onid yw? Felly, dyna lygedyn arall o olau ar ben draw'r twnnel, neu ar ben draw'r bont, os maddeuwch y chwarae ar eiriau. Felly, dyna ymrwymiad gan Lywodraeth y DU sy'n mynd i ddigwydd. Hefyd, wrth gwrs, ceir ymrwymiad Llywodraeth y DU i ariannu gwaith cynnal a chadw ar y bont honno yn y dyfodol, heb i ni orfod ysgwyddo'r gost i gyd yma yng Nghymru. Felly, mae hynny'n dda hefyd. Gadewch i ni gydnabod y pethau cadarnhaol.

Os caf grybwyll gwelliant y Llywodraeth yn fyr iawn, roeddwn yn synnu braidd ei bod yn dileu pwynt 4 y cynnig ac yna'n ei adfer mewn fformat wedi'i aralleirio sy'n dweud yr un peth yn y bôn, ond yn ceisio beio Llywodraeth y DU yn hytrach na beio Llywodraeth Cymru. Ond nid wyf am ymyrryd mewn galar preifat rhwng Plaid Cymru a Llafur ar hynny.

Adam Price, fe wnaethoch rai pwyntiau da iawn—fel y gwnewch bob amser, a bod yn deg—ond rwy'n meddwl y gallech fod wedi bod ychydig yn fwy gobeithiol ynglŷn â'r rhagolygon i'n heconomi. Rwy'n ddiolchgar na wnaethoch sôn am y gair 'B', oherwydd credaf fod pob un ohonom wedi cael digon ar glywed hwnnw'n cael ei grybwyll dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Ond mae mwy na llygedyn o olau ar ben draw'r twnnel, a gadewch i bob un ohonom yn y Cynulliad hwn weithio gyda'n gilydd i anfon neges gadarnhaol at Lywodraeth y DU: ie, rhowch fwy o gymorth i ni yn y dyfodol, ond o leiaf rydym yn cyrraedd rhywle.