Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn mynd i ddweud ei bod hi'n bleser codi i gyflwyno'r ddadl hon, ond mewn gwirionedd, os edrychwn ar sylwedd yr hyn rydym yn ei drafod, yna pleser yw'r peth olaf y mae rhywun yn ei deimlo. Pan gymerais ran yn nadl fyw Wales Live ar y gyllideb a gynhaliwyd gan y BBC, fe'm trawyd gan y montage a wnaethant, mewn gwirionedd, o adroddiadau teledu o newyddion BBC Cymru yn mynd yn ôl dros ddegawdau mewn ymateb i'r gyllideb, a vox pops ledled Cymru. Wyddoch chi, gallech weld y dilyniant hanesyddol, cyfuchliniau hanes economaidd Cymru, yn agor o'ch blaen, oherwydd yn y bôn roedd 'dim byd ynddi i Gymru' ar wefusau pobl mewn lluniau sepia o'r 1960au hyd heddiw: 'nid oes dim ynddi i Gymru'. Ac nid rhyw fath o bennawd taclus i ddatganiad i'r wasg gan Blaid Cymru yw hynny; rwy'n credu mai dyna yw profiad bywyd, mewn gwirionedd, i'r rhan fwyaf o'n pobl yn ôl dros genedlaethau. Oherwydd natur ganolgyrchol y grymoedd gwleidyddol ar yr ynysoedd hyn, atgynhyrchir hynny dro ar ôl tro ar ôl tro yn y blaenoriaethau economaidd—nid oes dim ynddi i Gymru. Ac felly, ni allai fod yn syndod. Roedd yn siom enfawr.
Nawr, y cyfle gwych hwn gyda'r morlyn llanw—rhaid i ni fod yno: roeddem wrth fan geni rhai o'r diwydiannau gant neu ddau o flynyddoedd yn ôl yn ystod y chwyldro diwydiannol. Wel, dyma gyfle inni fod wrth fan geni chwyldro diwydiannol newydd, ac mae hwnnw'n gyfle na allwn fforddio ei golli. Nid ydym yn gofyn am elusen fel gwlad, rydym yn gofyn am gymorth i helpu ein hunain. Am hynny y gofynnwn: y cyfle mewn gwirionedd i gynnull y sgiliau a'r adnoddau naturiol sydd gennym er budd ein cymdeithas, ac unwaith eto, cawn ein hamddifadu o'r cyfle hwnnw.
Felly, roedd y parhad hwnnw yno. Y parhad arall, nad oedd yn syndod eto, ond yn sicr roedd yn siom, oedd parhad economeg cyni, fel y gallem ei alw mae'n debyg. Gallem ei alw'n hynny, ond ni cheir fawr o economegwyr o unrhyw safon a fuasai'n ei chefnogi bellach—ni fuasai Ysgol Awstria yn cefnogi'r math o economeg lem a welwn gan y Llywodraeth hon. Ac mae rheswm da iawn pam: oherwydd ein bod ar drothwy'r cyfnod economaidd mwyaf problemus a phryderus, rwy'n meddwl, a wynebwyd gennym ers sawl cenhedlaeth, a'r rhan a oedd yn newydd, wrth gwrs, yn y gyllideb oedd israddio'r rhagolygon ar gyfer twf. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—y mae'n deg dweud mewn gwirionedd ei bod, dros nifer o flynyddoedd, wedi gorfod adolygu ei rhagolygon cynhyrchiant tuag at i lawr yn gyson—wedi cyflwyno rhagolwg twf diwygiedig o'r diwedd a oedd yn arwyddocaol tu hwnt, mewn gwirionedd, oherwydd dylai'r Aelodau wybod bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ddwy flynedd yn ôl yn unig yn rhagweld twf o 2.5 y cant. Felly, mae bron â bod wedi haneru'r rhagolwg hwnnw mewn gwirionedd.
Cafwyd cryn dipyn o ormodiaith, efallai, yn y modd y galwodd Larry Elliott hyn yn Suez economeg Prydain, yn yr ystyr mai'r gyllideb oedd yr adeg y sylweddolasom nad oeddem mwyach y grym yn y byd y credem ein bod ar un adeg. Ond wrth gwrs, cyfaddefodd y Canghellor ei hun nad yw'r DU mwyach yn un o'r pum prif economi; mae'n debyg o gael ei goddiweddyd gan India, ac erbyn diwedd y degawd yn sicr, rwy'n tybio. Ac os camwch yn ôl ac edrych ar y darlun ehangach, mae hon yn senario besimistaidd tu hwnt. Gallech ddweud bod hyn yn cyfateb i'n degawd coll—yr ymadrodd, wrth gwrs, a ddefnyddiwyd i ddisgrifio amgylchiadau arbennig Siapan, yn dilyn cwymp eu marchnad eiddo yn y 1990au cynnar. Rydym wedi cael degawd coll ym Mhrydain. Cawsom Sefydliad Resolution yn nodi mai hwn, yn dibynnu ar sut rydych yn ei fesur, yw'r cyfnod hiraf o ostyngiad mewn safonau byw, yn sicr ers 60 mlynedd—buasai rhai'n dadlau y gallwch fynd yn ôl ymhellach na hynny hyd yn oed.
Rydym wedi cael cyfartaledd o 1 y cant o dwf yn nhermau twf gwerth ychwanegol dros y degawd diwethaf. Rhaid i chi gofio bod tuedd hirdymor economi Prydain oddeutu 2 y cant. Mae hyn mor arwyddocaol ag y gallai fod. Mewn termau cymdeithasol, yn amlwg, os ydych yn bwrw yn eich blaen ar oddeutu 2 y cant a 2.5 y cant, mewn gwirionedd mae hynny'n arwain at godi safonau byw. Ar 1 y cant, mae'n arwain at y math o ostyngiad mewn safonau byw go iawn y mae Sefydliad Resolution yn ei nodi.