Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi nodi, wrth gwrs, fod yr economegydd yn y Gronfa Ariannol Ryngwladol y llynedd wedi rhybuddio y bydd polisïau cyni'n gwneud mwy o niwed nag o les. Mae hynny'n dod yn ôl ar ein pennau yn awr, fel y dywedwch, gyda'r rhagolygon twf wedi eu hisraddio. Ond hefyd, a fuasai'r Aelod yn cytuno ei fod wedi cynyddu anghydraddoldeb sydd hefyd yn brifo lefel a chynaliadwyedd twf ac mai dyna a ddywedodd y Gronfa Ariannol Ryngwladol?