Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Yn bendant. Credaf fod rhesymau strwythurol dwfn pam ein bod yn wynebu'r argyfwng hwn ar hyn o bryd ac mae gwaith y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus ar y Comisiwn Cyfiawnder Economaidd yn awgrymu hynny. Ceir agwedd gonfensiynol anghydraddoldeb cymdeithasol a chaiff honno ei hadlewyrchu hefyd mewn anghydraddoldeb tiriogaethol. Yn ein hachos ni, wrth gwrs, mae'r ddwy agwedd yn gymysg â'i gilydd. Oni bai eich bod yn mynd i'r afael â hynny, mewn gwirionedd, ni allwch ddod allan o'r rhigol rydym ynddi mewn gwirionedd.
Os edrychwch ar y ffigurau hefyd, rydym wedi cael cynnydd o 1 y cant—lefel wael iawn o dwf—dros y degawd diwethaf. Bob degawd ers y 1970au, cafwyd dirwasgiad gwirioneddol—twf negyddol. Nid ydym wedi cael hwnnw eto. Hynny sy'n rhythu arnom ar hyn o bryd. oherwydd os meddyliwch am y peth, mae hyd yn oed y twf o 1 y cant a gawsom wedi'i seilio ar gynnydd mewn adnoddau llafur, oherwydd gostyngiad mewn diweithdra, cyfradd gyflogaeth uwch nag erioed, mewnfudo—rhaid i mi ei ddweud—uwch nag erioed a phobl yn gweithio oriau hwy hefyd. Mae'r pethau hyn oll naill ai'n mynd tuag at yn ôl, yn achos mewnfudo, a chydag oriau gwaith ac ati, mae terfyn naturiol ar allu'r economi i gynnal ei hun drwy ychwanegu mewnbwn llafur. Mae'r llong honno wedi hwylio bellach. Rydym bellach ar benllanw hynny.
Y prif ddangosydd go iawn, wrth gwrs, yw allbwn yr awr—cynhyrchiant gwirioneddol. Nid yw hwnnw wedi tyfu ers degawd. Mae hynny'n ddigynsail i economi ddatblygedig fel y DU. Felly, mae pethau'n wael. Yn sicr, credaf fod y dangosyddion yn dangos eu bod yn mynd i fynd yn llawer iawn gwaeth, ac nid wyf wedi crybwyll y gair 'B' hyd yn oed. Rwy'n ceisio bod yn ddoeth ac yn wrthrychol ynglŷn â hyn. Gadewch i ni dynnu'r wleidyddiaeth allan ohono. Yn sicr, yn y tymor byr, mae hwn yn mynd i fod yn gyfnod cythryblus iawn i'r economi. Bydd yna enillwyr a chollwyr a gallwch ddewis ble y rhowch eich bys ar y deial yn hynny o beth. Ond mae'n debyg ein bod yn y cyfnod economaidd mwyaf brawychus a wynebwyd gennym ers cenhedlaeth.
Beth yw'r goblygiadau i ni yng Nghymru? Wel, rwy'n credu mai'r hyn sydd gennym i'w wneud—. Ni allwn ynysu ein hunain rhag y dylanwadau macroeconomaidd ehangach hyn—nid ar unrhyw gyfrif; mae hynny'n amlwg. Ond rhaid inni geisio hawlio i ni ein hunain gymaint o liferi a chymaint o ymreolaeth ag y gallwn yn y cyd-destun economaidd anodd hwn, a'r cyd-destun gwleidyddol sydd hyd yn oed yn waeth. Roedd y diweddar Rhodri Morgan yn arfer siarad am y ffordd roedd economi Cymru wedi cerfio lle iddi ei hun mewn rhaniad llafur i bob pwrpas—rhaniad llafur tiriogaethol ar draws y DU. Ac ar un ystyr, roedd rhyw fath o gompact—cafwyd rhyw fath o gompact tiriogaethol a chymdeithasol. Roedd yna gilfach roedd Cymru, am gyfnod, wedi cerfio iddi ei hun mewn gwirionedd drwy gytundeb. Mae hynny i gyd wedi ei chwalu wrth gwrs; nid ydym wedi cael polisi economaidd rhanbarthol go iawn yn y DU ers dros 40 mlynedd. Ac felly mae'r compact tiriogaethol hwnnw wedi mynd, ac o dan yr amgylchiadau hynny, er na allwn ynysu ein hunain yn llwyr, rhaid inni geisio mapio cymaint o'n llwybr ein hunain ag y bo modd.
Yr un darn bach yng nghyllideb y DU, yr un pwynt yng nghanol yr holl wae—mae yna bob amser ambell lafn o olau—ac yn ddiddorol, yr un rhan lle mae, mewn gwirionedd, yn mynd yn gwbl groes i bopeth arall o ran y cyfeiriad teithio, yw cyhoeddi'r strategaeth ddiwydiannol. Felly, yma mae gennych ailddyfeisio neu ailgyflwyno syniad o 40 neu 50 mlynedd yn ôl, a oedd yn chwaer i bolisi rhanbarthol, ac mewn gwirionedd, mae gennych, er enghraifft, y cynnydd mwyaf yn y gwariant ar ymchwil a datblygu— cynnydd o oddeutu £4.7 biliwn dros y cyfnod dan sylw—a welsom ers 40 mlynedd o ran polisi arloesi. Nawr, rhaid i chi gofio, mewn economi £2 triliwn, nid yw £4.7 biliwn yn mynd i ateb ein holl broblemau. Ond mae'n ysgogiad pwysig, ac mae angen inni yng Nghymru wneud yn siŵr, am ein bod wedi bod yn eithaf gwael yn y gorffennol, mewn gwirionedd—nid ydym erioed wedi cael ein cyfran deg o arian Cynghorau Ymchwil y DU o ran y prifysgolion, nid ydym erioed wedi cael ein cyfran deg o arian Innovate UK o ran polisi arloesedd diwydiannol. Rhaid inni fod yn llawer doethach a gwneud yn siŵr y gallwn fanteisio ar yr ychydig gyfleoedd cadarnhaol sydd ar y gorwel, a gwneud yn siŵr hefyd fod gennym y strwythurau a'r dulliau ar waith, fel y gallwn ddefnyddio'r arian hwnnw yn y ffordd ddoethaf a mwyaf deallus.
A rhaid i mi ddweud wrth Lywodraeth Cymru hefyd, ar adeg pan fo Llywodraeth y DU—yr un peth y mae'n ei wneud rwy'n cytuno ag ef, yw cynyddu'r buddsoddiad mewn arloesedd yn aruthrol ac mewn meysydd eraill o wella cynhyrchiant. Rydym yn torri ein cyllideb arloesi yn sylweddol. Ceir toriad o 78 y cant, mewn cyfalaf a refeniw gyda'i gilydd, yn llinell derfyn gwariant y gyllideb arloesi yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n wallgofrwydd economaidd, yn hurtrwydd economaidd does bosibl, ar adeg pan fo'n rhaid i ni ailddyfeisio ein hunain am yr union resymau a nodais, oherwydd rydym ar drothwy cyfnod eithriadol o ansicr yn wir.