Part of the debate – Senedd Cymru am 7:26 pm ar 29 Tachwedd 2017.
O ddifrif, doeddwn i ddim wedi sylweddoli, Nick, mai dyna oedd ystyr eich sylw. Credaf fod y slogan yn gweithio'n dda iawn a gobeithiaf y caiff ystyriaeth ddifrifol iawn ymhlith y rhai mewn awdurdod drosoch chi. [Chwerthin.]
Edrychwch, rydym wedi dweud dro ar ôl tro fod cyni yn bolisi diffygiol ac aflwyddiannus. Yr offeryn mwyaf amlwg a oedd gan y Canghellor at ei ddefnydd i hybu galw a chyflenwad oedd buddsoddiad cyhoeddus. Mae cyfraddau llog yn is nag erioed. Nawr oedd y cyfle mewn gwirionedd i wneud iawn am y gostyngiad bwriadol mewn termau real o fwy na 30 y cant yn y buddsoddiadau a gyflawnodd Llywodraeth y DU rhwng 2010 a 2017.
Ysgrifennais at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys—pennaeth cyllideb y DU—yn annog Llywodraeth y DU i wrando ar yr Gronfa Ariannol Ryngwladol a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac aelodau o'i Gabinet ei hun yn wir, a buddsoddi yn y seilwaith. Fel llawer o bobl eraill yma, manylais ar brosiectau penodol fel morlyn llanw bae Abertawe, y nododd Mike Hedges a Simon Thomas yr achos drostynt mor glir y prynhawn yma. Gofynnais iddynt newid eu penderfyniad i ganslo'r gwaith o drydaneiddio'r brif linell rhwng Abertawe a Chaerdydd ac ymrwymo i fuddsoddi mewn prosiectau trafnidiaeth allweddol yng ngogledd Cymru.
Gwnaeth cyllideb y DU gam â Chymru ym mhob un o'r pethau hyn — 'Dim byd ynddi i Gymru', fel y dechreuodd Adam Price y ddadl.