Part of the debate – Senedd Cymru am 7:28 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Lywydd, ceir nifer fach o bethau yn y gyllideb rwy'n dymuno eu croesawu, felly fe wnaf hynny yn awr. Rwy'n croesawu'r ffaith ein bod, o ran y fframwaith cyllidol, yn dechrau gweld effaith y fframwaith cyllidol yn dod i'r amlwg yn y gyllideb hon. Rwy'n croesawu'r ffaith bod yna ymrwymiad i fargeinion twf gogledd Cymru a chanolbarth Cymru. Rwy'n croesawu'r ffaith bod yna strategaeth ddiwydiannol i gyd-fynd â hynny, er gwaethaf y cyfyngiadau a nodwyd gan eraill y prynhawn yma.
Ond gwir stori'r gyllideb yw ei bod yn dal ati i greu'r cyd-destun lle mae cyni'n parhau i'r dyfodol, yn bla ar ragolygon cymaint o deuluoedd a chymunedau ac yn cyrydu gallu ein gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni'r gwaith sydd mor bwysig i fywydau dinasyddion Cymru. Roeddwn yn meddwl bod Siân Gwenllian wedi cyfleu'n dda iawn beth yw cost ddynol cyni—y ffordd y mae'n gweithio i mewn i fywydau unigolion a phlant yma yng Nghymru ac yn bwrw cymaint o gysgod dros eu dyfodol. Dyna'r cyd-destun rydym yn gweithredu ynddo, er gwaethaf y pethau bach y gallwn eu croesawu.
Gadewch i mi ddweud rhywbeth am fanylion y gyllideb. Byddwch wedi clywed am yr £1.2 biliwn sydd gennym yn ôl pob golwg. Mae hanner hwnnw'n gyfalaf trafodiadau ariannol. Rydym am fod yn greadigol yn y ffordd y byddwn yn ei ddefnyddio, ac fe wnawn ein gorau i wneud defnydd da ohono, ond gadewch i ni fod yn glir: daw'r cyfalaf trafodiadau ariannol at ddibenion a nodwyd gan Lywodraeth y DU gyda rheolau wedi'u gosod gan y Trysorlys pan fyddwn wedi gwneud y defnydd hwnnw ohono. Nid yw'n arian yn yr ystyr y gallwn ei ddefnyddio yn y ffordd arferol at ddibenion Cymru ar flaenoriaethau Cymru mewn ffyrdd y gall y Cynulliad chwarae rhan flaenllaw yn eu llunio.
Serch hynny, gwnawn ein gorau glas i wneud y mwyaf a allwn o'r rhannau hynny o'r gyllideb sydd yn ein dwylo. Ceir £215 miliwn mewn refeniw ar gyfer popeth rydym am ei wneud ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ym mhob un o'r pedair blynedd. Dros yr un cyfnod, ceir £350 miliwn mewn cyfalaf confensiynol. Dywedodd Joyce Watson, ac roedd hi'n llygad ei lle, y buasai ein cyllideb yng Nghymru, cyn y gyllideb hon, 7 y cant yn is mewn termau real yn 2018-19 o gymharu â degawd yn ôl, ac mae'r gyllideb hon yn gadael ein cyllideb 7 y cant yn is na'r hyn ydoedd ddegawd yn ôl. Mewn geiriau eraill, nid yw'n symud 1 y cant ar y deial hyd yn oed o ran y toriadau.
Ein gwaith ni yn Llywodraeth Cymru o hyd, er hynny, yw defnyddio'r holl gyfleoedd a ddaw i'n rhan. Byddwn yn sicr o wneud hynny. Bydd cyfleoedd yr wythnos nesaf, Lywydd, pan fyddwn yn gallu dangos rhai o'r cynlluniau y byddwn yn eu datblygu mewn trafodaethau ag eraill i ddefnyddio'r cyfleoedd newydd hynny. Edrychaf ymlaen at eu clywed yn cael eu trafod ymhellach yn y Cynulliad hwn.
Heddiw, mae gwelliannau'r Llywodraeth yn gofyn yn syml am gywiro'r camargraff mewn dau bwynt yn y cynnig. Rydym yn gobeithio y byddwch yn barod i gefnogi'r gwelliannau hynny, ac yna byddwn yn falch o bleidleisio dros y cynnig fel y'i diwygiwyd.