Part of QNR – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2017.
Mae newidiadau Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU yn golygu y bydd gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol nawr yn cael ei gyflwyno ar Ynys Môn ym mis Mehefin 2018. Dydw i ddim wedi cael trafodaethau penodol eto gyda sefydliadau Ynys Môn, ond byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol i’w helpu i baratoi ar gyfer cyflwyno Credyd Cynhwysol drwy Grŵp Cynghori Cymru ar Gredyd Cynhwysol.