Part of QNR – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2017.
Rwyf wedi comisiynu astudiaeth i asesu dichonoldeb cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pecynnu bwyd a diod, gan gynnwys plastig tafladwy. Rydym hefyd yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer treth neu ardoll ar blasting tafladwy ac rydym wedi dyrannu 500 mil o bunnoedd er mwyn rhoi prawf ar ddichonoldeb Cynlluniau Dychwelyd Ernes.