Cwestiwn Brys

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:35, 5 Rhagfyr 2017

Mae yna oblygiadau difrifol iawn, iawn, iawn i fy etholaeth i, a'r 1,000 o bobl sy'n gweithio yn uniongyrchol, neu'n anuniongyrchol, ym mhorthladd Caergybi, o weld ffin galed yng Nghaergybi. Caergybi yw'r ail borthladd prysuraf ym Mhrydain o ran fferis yn cario nwyddau. Mae masnach yn gwbl ddibynnol ar lif rhwydd o nwyddau, ac mi fydd masnach yn chwilio am lwybrau haws. Mae yna dystiolaeth yn barod o chwilio am ffyrdd mwy uniongyrchol i fynd â llongau o gyfandir Ewrop i borthladd Caergybi.

Rŵan, mae'n rhaid ystyried pob opsiwn erbyn hyn. Aros yn y farchnad sengl rydym ni yn y fan hyn yn ei ffafrio. Pa ystyriaeth, er enghraifft, os methwn ni â chael y nod honno, sy'n cael ei rhoi i greu ardal masnach rydd yng Nghaergybi, neu yn Ynys Môn gyfan, neu mae yna ardaloedd porthladdoedd eraill yng Nghymru, fel ffordd ymlaen? Rydw i angen sicrwydd bod y Llywodraeth yma yn mynd i fod yn edrych ar bob opsiwn, yn cynnwys hynny. Ac a gaf i hefyd sicrwydd y bydd ffawd ein porthladdoedd ni yn gwbl ganolog rŵan i waith Llywodraeth Cymru o drio dwyn perswâd ar Lywodraeth Prydain i ddangos eu bod nhw'n rhoi unrhyw ystyriaeth i'n buddiannau ni fel cenedl, achos, ar hyn o bryd nid ydw i'n gweld tystiolaeth o hynny o gwbl?