Cwestiwn Brys

– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:30, 5 Rhagfyr 2017

Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.67, a galwaf ar Mick Antoniw i ofyn y cwestiwn brys. Mick Antoniw. 

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5 Rhagfyr 2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o gael trefniadau pwrpasol i Ogledd Iwerddon o ran ei ffin? (EAQ0001)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:30, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, ni allwn ni ganiatáu i wahanol rannau o'r DU gael eu trin yn fwy ffafriol na rhannau eraill. Os yw un rhan o'r DU yn cael caniatâd i barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, yna rydym ni'n bendant yn disgwyl cael yr un cynnig. Fodd bynnag, ymddengys bod pethau wedi datblygu. Roedd yn amlwg bod Llywodraeth y DU yn bwriadu dod i gytundeb â'r UE ddoe, ond cafodd y cytundeb hynny ei chwalu gan y DUP, ac mae hynny'n peri i ni ofyn pam mae gan blaid fach o Ogledd Iwerddon y gallu i atal yr hyn sydd o fudd i'r DU o ran negodiadau â'r UE. Mae fy nghyd-Aelod o'r tu ôl yn dweud, 'Nid yw hynny'n gadarn a sefydlog'. Cytunaf yn llwyr ag ef. Ond, mewn gwirionedd, y cwestiwn yw hyn: a yw'r Prif Weinidog mewn gwirionedd yn rheoli'r DU, neu a yw'r DU yn cael ei rheoli gan 10 Aelod Seneddol o Ogledd Iwerddon?

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 1:31, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Efallai eich bod chi, fel finnau, dan gamargraff ein bod yn byw mewn democratiaeth seneddol, bod y Senedd yno i gynrychioli holl fuddiannau pob rhan o'r Deyrnas Unedig, ac rydym ni'n gweld yn awr, Prif Weinidog, ei bod yn ymddangos ei bod yn cael ei rheoli a'i llywio gan 10 person yn unig, sydd â safbwyntiau adain dde a homoffobig cryf, cysylltiadau hanesyddol â therfysgaeth, ac sydd hyd yn oed yn gwrthwynebu penderfyniad y mwyafrif o bobl Gogledd Iwerddon o ran yr Undeb Ewropeaidd. Felly, pan gafodd pobl Cymru eu hannog i adael yr Undeb Ewropeaidd oherwydd y byddai'r Senedd yn sofran unwaith eto, a ydych chi'n credu mai dyma oedd ganddyn nhw mewn golwg?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

'Na' yw'r ateb. Nid wyf yn credu eu bod wedi rhagweld sefyllfa pryd, yn gyntaf oll, y gellid perswadio Llywodraeth y DU i dalu £1.67 biliwn am gefnogaeth, ac, yn ail, sefyllfa pan na fyddai Llywodraeth y DU yn gallu negodi gyda'r Undeb Ewropeaidd oherwydd feto gan nifer fach o Aelodau Seneddol. Dwi ddim yn credu mai dyna a oedd gan bobl mewn golwg o gwbl, pan wnaethon nhw bleidleisio y llynedd.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 1:32, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, fel y gŵyr Llywodraethau blaenorol Cymru, wrth weithio mewn clymbleidiau, yr ydych chi'n bennaeth de facto ohonynt, ac rydym ni wedi cael dwy Lywodraeth flaenorol mewn clymblaid, dyna yw realiti Llywodraeth glymblaid. Ond neithiwr, dywedodd y Taoiseach, 'Nid ydym ni eisiau ffin ym Môr Iwerddon.' Yn ystod amser cinio heddiw, dywedodd David Davis yn Nhŷ’r Cyffredin, eu bod nhw bellach yn agos at gwblhau cam cyntaf y negodiadau, gan symud ymlaen at drafodaethau masnach, ac nid yw'r Llywodraeth eisiau gweld ffin galed rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod uniondeb marchnad sengl yr UE, ond hefyd uniondeb ffiniau'r DU, ac na fyddan nhw yn trin unrhyw ran o'r DU mewn ffordd wahanol. Nododd hefyd fod Canghellor yr Wrthblaid Llafur, John McDonnell, wedi dweud y byddai aros yn y farchnad sengl yn cael ei ddehongli fel amharchu'r refferendwm.

Gan nodi, felly, yr wythnos diwethaf, bod Bertie Ahern, cyn Taoiseach Gweriniaeth Iwerddon, wedi datgan y byddai technoleg yn ateb rhannol i reoli symudiadau ar draws ffin Iwerddon ar ôl Brexit, a'r cynifer o weithiau yr ydych chi wedi codi'r pwynt hwn yn ddilornus, pa waith ymchwil mewn gwirionedd y mae eich Llywodraeth wedi ei gyflawni ar y technolegau sy'n cael eu defnyddio mewn nifer o rannau o'r byd, sy'n rheoli nwyddau ac yn eu cludo ar draws ffiniau ar yr union sail hon?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:33, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn siŵr os mai ein cyfrifoldeb ni yw gwneud hynny, a dweud y gwir, ac mae Llywodraeth y DU wedi dweud dro ar ôl tro ei bod yn archwilio'r dechnoleg. Mewn geiriau eraill, nid oes ganddi unrhyw syniad pa dechnoleg y gellid ei defnyddio. A gaf i ddweud wrth yr Aelod, bod un enghraifft lle y ceir endid sydd y tu allan i'r undeb tollau, sydd â ffin gydag endid sydd o fewn yr Undeb Tollau, a Gibraltar yw honno, ac mae'r ffin honno yn galed iawn, iawn. Mae'n bell o fod yn ffin feddal. Mewn gwirionedd, ymddengys ei fod yn darllen datganiad y dylen nhw fod wedi ei gyflwyno brynhawn ddoe, a hynny yw bod Llywodraeth y DU yn agos iawn at ddod i gytundeb gyda'r UE. Wel, yn amlwg, nid dyna yw'r achos ar ôl i ni weld y trafodaethau yn chwalu neithiwr. Rwy'n synnu clywed bod y DUP mewn gwirionedd mewn clymblaid gyda'r Llywodraeth Geidwadol. Nid oeddwn i'n ymwybodol eu bod nhw mewn gwirionedd mewn clymblaid a bod gannddyn nhw Weinidogion mewn clymblaid.

Ond, nid dyma yw'r pwynt: bod gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i sicrhau cytundeb sydd yn dda i'r DU gyfan? Roedd yn eithaf clir ddoe—yn eithaf clir ddoe—eu bod nhw'n ceisio gwneud trefnu bargen arbennig neu statws arbennig ar gyfer Gogledd Iwerddon. Dyna oedd sefyllfa Llywodraeth y DU amser cinio ddoe. Mae Arlene Foster yn codi'r ffôn ac yn dweud 'Theresa, mae'n flin gen i, nid ydym ni yn mynd i ganiatáu i chi wneud hyn' ac yna mae Theresa May yn ildio. Onid oes perygl y bydd y DU gyfan a'i buddiannau yn ddarostyngedig i farn y blaid fwyaf yng Ngogledd Iwerddon—gwir—ond nid plaid sy'n cynrychioli'r mwyafrif o bobl yng Ngogledd Iwerddon? Onid yw'r Aelod yn gallu gweld bod peryglon yn hynny?

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:35, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Yn ystod y 24 awr diwethaf, rydym wedi gweld y posibilrwydd o un rhan o'r DU yn cael bargen unigryw, a dywedaf eto ein bod ni ym Mhlaid Cymru eisiau i Gymru hefyd elwa ar unrhyw fath o drefniadau penodol neu arbennig a fyddai'n caniatáu i ninnau hefyd fod yn rhan o'r farchnad sengl a'r Undeb Tollau. Ac ni fyddai unrhyw un yn ei iawn bwyll yn dymuno gweld ffin galed ar Iwerddon—gwn fod y Prif Weinidog yn cytuno â mi ynglŷn â hynny. Ond nid yw symud y ffin galed tua'r dwyrain yn ateb a fyddai'n gweithio i Gymru, ac yn sicr nid i'm hetholwyr i a phorthladd Caergybi.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Mae yna oblygiadau difrifol iawn, iawn, iawn i fy etholaeth i, a'r 1,000 o bobl sy'n gweithio yn uniongyrchol, neu'n anuniongyrchol, ym mhorthladd Caergybi, o weld ffin galed yng Nghaergybi. Caergybi yw'r ail borthladd prysuraf ym Mhrydain o ran fferis yn cario nwyddau. Mae masnach yn gwbl ddibynnol ar lif rhwydd o nwyddau, ac mi fydd masnach yn chwilio am lwybrau haws. Mae yna dystiolaeth yn barod o chwilio am ffyrdd mwy uniongyrchol i fynd â llongau o gyfandir Ewrop i borthladd Caergybi.

Rŵan, mae'n rhaid ystyried pob opsiwn erbyn hyn. Aros yn y farchnad sengl rydym ni yn y fan hyn yn ei ffafrio. Pa ystyriaeth, er enghraifft, os methwn ni â chael y nod honno, sy'n cael ei rhoi i greu ardal masnach rydd yng Nghaergybi, neu yn Ynys Môn gyfan, neu mae yna ardaloedd porthladdoedd eraill yng Nghymru, fel ffordd ymlaen? Rydw i angen sicrwydd bod y Llywodraeth yma yn mynd i fod yn edrych ar bob opsiwn, yn cynnwys hynny. Ac a gaf i hefyd sicrwydd y bydd ffawd ein porthladdoedd ni yn gwbl ganolog rŵan i waith Llywodraeth Cymru o drio dwyn perswâd ar Lywodraeth Prydain i ddangos eu bod nhw'n rhoi unrhyw ystyriaeth i'n buddiannau ni fel cenedl, achos, ar hyn o bryd nid ydw i'n gweld tystiolaeth o hynny o gwbl?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:36, 5 Rhagfyr 2017

Wel, mae llawer o beth ddywedodd yr Aelod yn iawn. Rydym ni wedi gweud sawl gwaith bod 70 y cant o'r masnach rhwng Prydain Fawr ac ynys Iwerddon yn mynd drwy borthladdoedd Cymru. Byddai unrhyw beth sydd yn stopio hynny, neu'n pwyso ar hynny, yn rhywbeth sy'n mynd i gostio i Gaergybi, Doc Penfro ac Abergwaun, ynglŷn â swyddi ac ynglŷn â masnach. Beth yw'r ateb? Mae'r ateb i fi yn gwbl glir, sef y dylai'r Deyrnas Unedig aros yn y farchnad sengl a hefyd wrth gwrs aros yn yr undeb tollau. Felly, wrth gwrs, ni fyddai eisiau cael unrhyw fath o ffin ynglŷn â thollau rhwng Prydain ac Iwerddon, neu rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Dyna beth yw'r ateb, a dyna beth, wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn ei ddweud wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig—nad oes yn rhaid dehongli canlyniad y llynedd fel canlyniad sydd yn ganlyniad i gael y Brexit mwyaf caled sydd yn bosib. Mae'n bosib i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond mewn ffordd sydd ddim yn peryglu swyddi yng Nghymru ac sy'n sicrhau ein bod ni'n gallu gwerthu yn y farchnad sengl, a bod yn rhan o'r undeb tollau.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:37, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Yr unig beth yr ydym ni wedi ei ddysgu o'r llanast a ddigwyddodd ar y penwythnos yw nad yw Theresa May yn dda iawn am wleidyddiaeth, ac roeddem ni'n gwybod hynny beth bynnag ar ôl canlyniad yr etholiad cyffredinol diwethaf. Byddai'n amhosibl i'r DUP fyth ystyried y math o fargen yr ydym yn darllen amdano, lle y byddai bargen arbennig o ran masnach, ar gyfer Gogledd Iwerddon, oherwydd byddai hynny yn peryglu uniondeb y Deyrnas Unedig, sef prif ddiben bodolaeth y DUP. Felly, ni fu hynny erioed yn bosibl. Mae 85 y cant o fasnach Gogledd Iwerddon gydag Ynysoedd Prydain yn eu cyfanrwydd, yn cael ei gwneud gyda'r Deyrnas Unedig, ac nid â Gweriniaeth Iwerddon, felly nid yw hyd yn oed o fudd economaidd i Iwerddon gael y math o gytundeb y byddai'r UE yn dymuno ei gael. Ond rwy'n credu mai'r wers arall yr ydym yn ei dysgu o ganlyniad i ddigwyddiadau'r penwythnos, yw bod gan lond dwrn o Aelodau Seneddol Gogledd Iwerddon lawer mwy o ddylanwad ar Lywodraeth Prydain nag sydd gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod hynny'n adlewyrchiad gwael ar Lywodraeth Cymru yn hytrach nag ar y DUP.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:38, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

[Anghlywadwy.]—y Blaid Geidwadol, a gwendid y Prif Weinidog. Mae'n destun pryder mawr clywed arweinydd UKIP yn dweud, 'Wel, nid yw'r Prif Weinidog yn arbennig o dda am wleidyddiaeth'—efallai nad hynny fyddai'r nodwedd orau i berson feddu arni pan ei fod, mewn gwirionedd, yn Brif Weinidog.

Ceir dau ddewis yma. Naill ai, yn gyntaf oll, ni ofynnwyd am farn y DUP, ac wedyn fe wnaethon nhw fynegi eu barn yn glir iawn, iawn, neu gofynnwyd am eu barn ac yna fe wnaethon nhw gefnu ar ryw fath o gytundeb gyda Llywodraeth y DU. Nid oes unrhyw ddewisiadau eraill posibl yn y sefyllfa hon. Boed hynny y naill ffordd neu'r llall, mae'n arwydd o gamreolaeth gan Lywodraeth y DU o'r sefyllfa. Roeddwn i'n credu bod yr hyn a gafodd ei gynnig ddoe yn rhywbeth diddorol, o ran datrysiad. Nid oes neb eisiau gweld ffin gadarn—mae'n amhosibl cael ffin gadarn, mewn gwirionedd, ar yr ynys honno. Rwy'n adnabod yr ardal honno yn dda. Mae'n amhosibl; ni ellir ei wneud, ac roeddwn i'n credu bod ffyrdd o chwilio am ddatrysiad. Ond yr hyn y mae'n ymddangos ein bod ni'n ei wynebu erbyn hyn yw bod gan un blaid feto, plaid sy'n cynrychioli tua 37, 38 y cant o'r boblogaeth yng Ngogledd Iwerddon, o ran beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, a does bosib bod honno'n sefyllfa gynaliadwy cyn belled ag y mae'r dyfodol yn y cwestiwn. A byddwn i'n disgwyl y byddai Llywodraeth y DU wedi ymdrin â'r mater hwn gyda'r DUP ymlaen llaw er mwyn cael cefnogaeth y DUP. Mae'n ymddangos i mi, naill ai na ddigwyddodd hynny neu, fod hynny wedi digwydd a bod y DUP wedi newid eu meddwl. Pa ddewis arall allai fod?