Cod y Gweinidogion

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 1:40, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Fel y byddwch yn gwybod o'n trafodaeth yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, rwy'n gobeithio darparu tystiolaeth i'r ymchwilydd annibynnol sy'n ystyried yr honiadau o fwlio yn Llywodraeth Cymru. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r Cynulliad hwn, i deulu Carl Sargeant ac i eraill y bydd unrhyw AC sydd â gwybodaeth yn cael cyfrannu heb fod ofn dial ac y bydd y cyd-gyfrifoldeb, sy'n rhwymo aelodau Llywodraeth Cymru fel rheol, yn cael ei hepgor at ddibenion yr holl ymchwiliadau yr ydych chi wedi eu cyhoeddi?