Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:50, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, fel y dywedasoch yn gynharach, chwalwyd ymgais y DU i symud ymlaen i'r cam nesaf yn y trafodaethau Brexit gan y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd, a'r ffin yn Iwerddon yw'r maen tramgwydd. Nid oes yr un ohonom ni eisiau dychwelyd i ffin galed, ond nid ydym ychwaith eisiau gweld rhwystrau rhwng Cymru a'n cymdogion agosaf. Bydd rhwystrau yn newyddion drwg i borthladd Caergybi, fel y clywsom yn gynharach, i Stena Line, i Irish Ferries, i swyddi, ac yn newyddion drwg i borthladdoedd eraill yng Nghymru hefyd. Bydd oediadau i fusnes, a thagfeydd i deithwyr yw'r risg. Rydym ni i gyd yn gwybod faint o ddylanwad sydd gan y DUP. Pa ddylanwad allwch chi ei ddefnyddio i ddiogelu porthladd Caergybi rhag ffin galed newydd?