Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Mae adran 2.9 cod y gweinidogion yn nodi mai'r Prif Weinidog a'r Prif Weinidog yn unig sydd â chyfrifoldeb am gynghorwyr arbennig, ac adlewyrchwyd hynny yng nghofnod y Prif Weinidog yn y rhestr o gyfrifoldebau'r gweinidogion, lle ceir cyfeiriad penodol at gynghorwyr arbennig. Dyma fu'n wir hyd at y fersiwn ddiwygiedig o gyfrifoldebau'r gweinidogion, sydd o dan gofnod y Prif Weinidog erbyn hyn yn hepgor y cyfeiriad hwnnw at gynghorwyr arbennig. Pam mae hynny, Prif Weinidog? A ydych chi'n ceisio cuddio neu osgoi eich cyfrifoldebau?