Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Felly, rydych chi'n dweud, yn yr atebion a roesoch chi i'r Siambr hon dros yr wythnosau diwethaf, pan wnaethoch chi nodi—a'ch geiriau chi oedd y rhain—y rhoddwyd sylw i faterion ac y cymerwyd camau, nad oedd y materion hynny yn ymwneud ag ymddygiad o'r natur a ddisgrifiwyd gan Leighton Andrews, gan y cynghorydd arbennig neu gan unigolion eraill sydd wedi mynd at y wasg i ddweud bod awyrgylch o'r fath yn bodoli ar y pumed llawr, ac y tynnwyd eich sylw atynt. A dywedasoch, yn y Siambr hon, y cymerwyd camau gennych chi. Felly, pa gamau wnaethoch chi eu cymryd, a beth oedd y materion yr oeddech chi'n cyfeirio atynt yn eich atebion blaenorol?