Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Prif Weinidog, rydych chi wedi atgyfeirio eich hun ar gyfer ymchwiliad o dan god y gweinidogion o'r diwedd. Rwyf i wedi bod yn gofyn i chi wneud hynny ers misoedd, ar dri gwahanol achlysur pan fy mod yn credu eich bod chi wedi camarwain y Senedd hon. Rydych chi naill ai wedi anwybyddu'r galwadau neu, yn hytrach, wedi taflu baw ataf i. Nawr, mae cod y gweinidogion yn eglur: os ydych chi'n camarwain y Cynulliad yn fwriadol, bydd disgwyl i chi ymddiswyddo. Os canfyddir eich bod chi wedi camarwain y Cynulliad hwn, a wnewch chi ymddiswyddo? Ac a wnewch chi atgyfeirio eich hun nawr ar gyfer ymchwiliad o dan god y gweinidogion ar y materion eraill yr wyf i wedi eu codi yn y gorffennol?