Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Da iawn. Felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau felly bod yr ymchwiliad sy'n cael ei gynnal, un o blith llawer—diwrnod arall, ymchwiliad arall heddiw—gan James Hamilton yn cynnwys, hefyd, ymchwiliad i ymddygiad cynghorwyr arbennig, gan eu bod nhw'n atebol yn benodol iddo fe, y Prif Weinidog, yn y pen draw, am eu hymddygiad gwleidyddol?