Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Wrth chwilio am yr ateb mwyaf tryloyw posibl i rai o'r materion sydd fwyaf pwysig i'r Cynulliad heddiw, rydw i'n mynd yn ôl at yr hyn a ofynnwyd gan Andrew R.T. Davies, achos pan wnaethoch chi ateb Andrew Davies fe wnaethoch chi ddweud yn glir iawn nad ydych chi'n delio ag unrhyw gyhuddiadau o fwlian, ond fe ofynnwyd cwestiwn llawer mwy eang i chi. Felly, a gaf i ofyn y cwestiwn eto? A dderbynioch chi unrhyw gwyn neu sylw gan Leighton Andrews o gwmpas Hydref 2014 a oedd yn ymwneud ag ymddygiad—nid jest bwlian, ond ymddygiad yn gyffredinol—unrhyw aelod o'ch staff neu o'r Llywodraeth? Ac a wnaethoch chi, wrth ddelio â cwyn neu sylw gan Leighton Andrews, addo iddo fe y byddai rhywun yn edrych i mewn i'r sylwadau hynny?