Credyd Cynhwysol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'r Gweinidog wedi ysgrifennu at y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth yn gofyn am fwy o fanylion o ran newidiadau cyllideb yr hydref y DU, yn enwedig pan fo hawlwyr cynhwysol yn derbyn costau tai, i ddeall sut y bydd y trefniadau cymorth newydd yn gweithio i hawlwyr o ran y credyd cynhwysol. Mae'r Gweinidog hefyd yn ceisio sicrwydd y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu cynnig cymorth ariannol i hawlwyr credyd cynhwysol dros gyfnod y Nadolig. Cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn, mae £5.97 miliwn o gyllid grant ar gael eleni i ddarparu cyngor ar faterion lles cymdeithasol, sydd wedi ei ddarparu trwy dri phrosiect.