Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Wel, nid yw'n gweithio; dyna'r broblem. Ni waeth beth yw'r egwyddor, mae'n amlwg nad yw'n gweithio. Bydd pobl yn cael eu gadael yn ddiamddiffyn heb unrhyw arian. Rydym ni'n gwybod ei fod yn llanast. Rydym ni'n gwybod bod Aelodau ei blaid ei hun—wel, nid wyf yn gwybod a yw e'n aelod o'r Blaid Geidwadol ai peidio—bod aelodau sy'n eistedd yn yr un blaid ar yr ochr honno yn San Steffan sydd wedi gwneud yr un pwyntiau i Lywodraeth y DU. Y pwynt yw bod hwn yn llanast a grëwyd gan Lywodraeth y DU ei hun, ac mae pobl gyffredin yn dioddef.