Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Prif Weinidog, rydych chi'n ymchwilio nawr i ddatgeliad cyfrinachau posibl ar ôl yr honiad bod llawer o bobl yn gwybod am ad-drefniant eich Cabinet cyn iddo ddigwydd. Ymddengys hefyd bod llawer o bobl yma sy'n gwybod pwy yw'r achwynwyr yn erbyn Carl Sargeant a natur y cwynion. Ni ellir ei godi yma oherwydd cyfreithiau diogelu data. Erbyn dydd Gwener roedd—. Ar ddydd Llun yr wythnos dan sylw, dywedasoch nad oeddech chi wedi cael unrhyw gwynion dros y misoedd diwethaf yn erbyn eich ACau. Erbyn dydd Gwener, dywedasoch eich bod wedi cael tri. Felly, hoffwn i chi ddatgan ar y cofnod pa un a ydych chi'n ymwybodol ai peidio o'r cwynion hynny'n cael eu cydgysylltu mewn unrhyw ffordd.