Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:54, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Nid yw fel pe nad ydynt wedi bod yn gefnogol o'r gwelliannau yr ydym ni wedi eu cyflwyno. Ond dyma'r safbwynt sydd gen i: rwyf i eisiau gweld cytundeb da i'r DU gyfan. Rwy'n credu mai dyna'r ateb hawddaf o bell ffordd. Mae cael cytundeb penodol i Gymru yn fwy anodd; nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Mae'n fwy anodd. Nid yw'n amhosibl; mae'n yn sicr yn fwy anodd. Hoffwn weld y DU yn ei chyfanrwydd yn aros yn yr undeb tollau, yn cael mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, y bydd busnesau Cymru yn gallu cael mynediad at farchnad y DU, sy'n bwysig dros ben iddyn nhw, a marchnad yr UE ar yr un pryd. Nid wyf i'n gweld bod angen unrhyw fath o gystadleuaeth rhwng y ddau nod hynny.