2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:20, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd y mis diwethaf? Mae'r strategaeth yn ymrwymo Llywodraeth y DU i weithio mewn partneriaeth ledled y pedair gwlad i greu'r amodau sy'n golygu y gall busnesau llwyddiannus ddatblygu a thyfu i helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni swyddi â chyflog uchel a medrus iawn y dyfodol. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau ei bod yn fodlon ymgysylltu mewn modd adeiladol â San Steffan i fodloni nodau'r strategaeth ddiwydiannol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?