Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Roeddwn i'n falch iawn o weld y strategaeth ddiwydiannol a gyhoeddwyd. Roedd yn cynnwys nifer o bethau sydd o ddiddordeb mawr i Lywodraeth Cymru, yn enwedig y pwyslais ar y maes digidol a data, a chroesewir hynny'n fawr. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a'r seilwaith, nad yw'n bresennol heddiw i glywed eich cwestiwn, yn cyflwyno ei gynllun gweithredu economaidd ei hun, a fydd wrth gwrs yn cynnwys y manylion ynghylch sut y mae'n cydweddu â strategaeth ddiwydiannol y DU, ymhlith nifer o bethau eraill.