3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus — Yr Ymateb i'r Ymgynghoriad

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:38, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Llywydd, yn ystod yr haf, fe wnes i gyhoeddi Papur Gwyn ar ddiwygio system hyfforddiant addysg ôl-orfodol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ddiwedd mis Hydref, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ar y cynnydd a chyhoeddi ein bod yn symud ymlaen i ymgynghoriad technegol.

Yn y Papur Gwyn, rwy'n nodi cynigion y Llywodraeth ar gyfer diwygio, sy'n cwmpasu addysg uwch ac addysg bellach, ymchwil ac arloesi, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned, ac fe wnaethom geisio barn ynghylch y ffordd ymlaen. Wrth wraidd y cynnig ar gyfer system ddiwygiedig mae corff newydd: y comisiwn ymchwil ac addysg drydyddol ar gyfer Cymru. Byddai hwn nid yn unig yn disodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ond byddai hefyd yn cymryd cyfrifoldeb dros gyfres ehangach o swyddogaethau, y mae llawer ohonynt yn cael eu gwneud gan y Llywodraeth ar hyn o bryd. Wrth wneud hynny, byddai'r Comisiwn newydd yn darparu goruchwyliaeth, cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth ar gyfer y sector cyfan.

Yn ystod y misoedd diwethaf, cynhaliodd swyddogion nifer o ddigwyddiadau ar gyfer rhanddeiliaid ledled y wlad. Rhoddodd hyn gyfle pwrpasol ar gyfer trafodaethau manwl ar y cynigion. Hefyd, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgynghoriad ar wahân yn y gogledd a'r de, a chynhaliwyd ymgynghoriad ar gyfer pobl ifanc hefyd, gan mai'r grŵp hwn fydd yn cael ei effeithio fwyaf gan y newidiadau arfaethedig.

Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn bresennol am rannu eu safbwyntiau â ni, a'n helpu i lunio cam nesaf ein cynigion. Er nad oes gobaith i mi allu gwneud cyfiawnder â manylder cyfoethog yr ymatebion yma heddiw, rwyf yn falch o ddweud bod y cynigion wedi cael cefnogaeth eang. Cyhoeddir crynodeb o'r ymatebion ar wefan y Llywodraeth.