3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus — Yr Ymateb i'r Ymgynghoriad

– Senedd Cymru am 2:38 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:38, 5 Rhagfyr 2017

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar fudd y cyhoedd a Chymru ffynnianus—yr ymateb i'r ymgynghoriad. Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd i wneud y datganiad—Kirsty Williams.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Llywydd, yn ystod yr haf, fe wnes i gyhoeddi Papur Gwyn ar ddiwygio system hyfforddiant addysg ôl-orfodol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ddiwedd mis Hydref, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ar y cynnydd a chyhoeddi ein bod yn symud ymlaen i ymgynghoriad technegol.

Yn y Papur Gwyn, rwy'n nodi cynigion y Llywodraeth ar gyfer diwygio, sy'n cwmpasu addysg uwch ac addysg bellach, ymchwil ac arloesi, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned, ac fe wnaethom geisio barn ynghylch y ffordd ymlaen. Wrth wraidd y cynnig ar gyfer system ddiwygiedig mae corff newydd: y comisiwn ymchwil ac addysg drydyddol ar gyfer Cymru. Byddai hwn nid yn unig yn disodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ond byddai hefyd yn cymryd cyfrifoldeb dros gyfres ehangach o swyddogaethau, y mae llawer ohonynt yn cael eu gwneud gan y Llywodraeth ar hyn o bryd. Wrth wneud hynny, byddai'r Comisiwn newydd yn darparu goruchwyliaeth, cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth ar gyfer y sector cyfan.

Yn ystod y misoedd diwethaf, cynhaliodd swyddogion nifer o ddigwyddiadau ar gyfer rhanddeiliaid ledled y wlad. Rhoddodd hyn gyfle pwrpasol ar gyfer trafodaethau manwl ar y cynigion. Hefyd, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgynghoriad ar wahân yn y gogledd a'r de, a chynhaliwyd ymgynghoriad ar gyfer pobl ifanc hefyd, gan mai'r grŵp hwn fydd yn cael ei effeithio fwyaf gan y newidiadau arfaethedig.

Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn bresennol am rannu eu safbwyntiau â ni, a'n helpu i lunio cam nesaf ein cynigion. Er nad oes gobaith i mi allu gwneud cyfiawnder â manylder cyfoethog yr ymatebion yma heddiw, rwyf yn falch o ddweud bod y cynigion wedi cael cefnogaeth eang. Cyhoeddir crynodeb o'r ymatebion ar wefan y Llywodraeth.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:40, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Roedd croeso i swyddogaeth y comisiwn arfaethedig o ran cynllunio strategol. Cafwyd cytundeb y dylai cyllid gan y comisiwn i ddarparwyr addysg a hyfforddiant fod yn ddibynnol mewn rhyw ffordd ar gytundeb Gweinidogion Cymru i'w gynllun strategol. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr y tu allan i'r sector addysg uwch yn cefnogi mewn egwyddor gyflwyniad cytundebau canlyniadau ond yn eiddgar i gael mwy o fanylion am eu gweithrediad. Byddwn yn datblygu rhagor o fanylion am y dull hwn i'w hystyried gan y rhanddeiliaid. Roedd ymatebwyr yn gweld swyddogaeth i'r comisiwn arfaethedig o ran cefnogi myfyrwyr i newid cyrsiau a darparwyr, ac amddiffyn myfyrwyr yn achos methiant y darparwr. Cytunodd mwyafrif hefyd fod ehangu'r hygyrchedd i grwpiau nad oes ganddyn nhw gynrychiolaeth ddigonol yn broblem o hyd, fel y mae'r diffyg cyfleoedd i astudio'n rhan-amser. Bydd yr Aelodau yn gwybod fod y rhain yn egwyddorion ysgogol i'n diwygiadau ni o ran cymorth i fyfyrwyr.

Gan droi at ansawdd y ddarpariaeth, roedd mwyafrif llethol y rhanddeiliaid yn gefnogol i swyddogaeth i'r comisiwn o ran gwella ansawdd. Roedd gwahaniaeth barn, er hynny, ynghylch a fyddai un fframwaith cyffredin i sicrhau ansawdd y system Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) yn ei chyfanrwydd yn ffordd gywir o fwrw ymlaen. Mae'n amlwg fod angen gwaith eto yn hyn o beth, a bydd yr adolygiad ategol gan yr Athro Harvey Weingarten yn cyfrannu llawer i ddatblygiad y cynigion hyn wrth inni symud ymlaen.

Cwestiwn penodol a gafodd ei ofyn yn yr ymgynghoriad oedd a ddylai fod gan y comisiwn arfaethedig gyfrifoldeb dros y chweched dosbarth neu beidio . Eto, mae hwn yn faes y byddwn yn gwneud rhagor o waith arno, ond dylid dweud bod mwyafrif yr ymatebwyr o'r farn y dylai'r chweched dosbarth gael ei drin fel pe bai'n rhan o'r system PCET. Teimlai rhai ymatebwyr y dylid cyflwyno'r chweched dosbarth yn raddol yn ddiweddarach yn hytrach na bod yn rhan o gylch gwaith y comisiwn o'r dechrau. Rwy'n diolch i'r ymatebwyr am godi hynny a materion eraill y byddwn yn eu hystyried ymhellach wrth inni ddatblygu ein cynigion ar gyfer cam nesaf yr ymgynghoriad.

Yn ogystal â'r hyn y mae rhanddeiliaid wedi ei dweud wrthym ni yn eu hymateb i'r Papur Gwyn, mae angen hefyd inni ystyried yr adolygiad diweddar o ddatblygiadau eraill a'u heffaith ar ein cynigion ar gyfer diwygio PCET. Argymhellodd yr adolygiad diweddar o weithgareddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei fod yn ehangu ei gylch gwaith o fod yn cwmpasu addysg uwch i gwmpasu'r sector PCET yn ei gyfanrwydd. Rwyf wrth fy modd am fod hyn yn cyd-fynd â'n cynigion i ddiwygio PCET, a bydd y berthynas rhwng y comisiwn arfaethedig a'r Coleg yn ystyriaeth allweddol wrth i ni fwrw ymlaen.

Bydd y cynigion i wneud Ymchwil ac Arloesi Cymru yn bwyllgor statudol y comisiwn yn amlwg yn cael eu dylanwadu gan ymatebion y rhanddeiliaid ond hefyd ganlyniadau adolygiad Reid. Bydd hwn yn adrodd yn fuan yn y flwyddyn newydd a byddwn wrth gwrs yn cymryd barn yr Athro Reid i ystyriaeth wrth inni symud ymlaen. Yng ngoleuni'r ymatebion i'r cynigion cychwynnol yn ein Papur Gwyn, rwy'n bwriadu cyhoeddi dogfen ymgynghoriad technegol pellach yn gynnar yn y flwyddyn newydd, yn nodi'n fwy manwl sut yr ydym yn rhagweld y gallasai'r comisiwn newydd weithio. Rydym yn Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i wrando ac rwy'n cydnabod efallai y bydd materion yn dod i'r amlwg eto na fydd yr ymgynghoriad technegol yn ymdrin â nhw. Rwyf i, felly, wedi fy ymrwymo i barhau i ymgysylltu yn agos â rhanddeiliaid ac ar draws y Siambr wrth inni symud ymlaen gyda'n diwygiadau.

Yng ngoleuni ein cynigion i ddiwygio'r system PCET, mae'n codi fy nghalon i fod rhanddeiliaid o'r gwahanol sectorau eisoes yn chwilio am ffyrdd o weithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd mewn partneriaeth, ac mae hynny'n argoeli'n dda iawn i'r dyfodol. Yn ein Llywodraeth rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer trosglwyddo yn llyfn i system PCET sydd wedi ei gweddnewid. Rydym yn cymryd cam cyntaf pwysig tuag at y cyfnod pontio hwnnw drwy wneud cyfres o benodiadau newydd i gyngor cyfredol CCAUC. Ymunodd aelodau newydd cyntaf y Cyngor ar 1 Rhagfyr, a bydd aelodau newydd eraill yn dechrau yn eu swyddi yn gynnar yn 2018 fel y bydd yr aelodau presennol yn rhoi'r gorau iddi.

Bydd y penodiadau hyn am dair blynedd yn y lle cyntaf a byddant yn helpu i ehangu cyrhaeddiad a gwelediad y Cyngor. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu denu unigolion o'r fath safon uchel i'r swyddi hyn, a fydd yn hanfodol i helpu inni wireddu ein huchelgais ar gyfer addysg drydyddol, ymchwil a hyfforddiant. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi teyrnged i Aelodau Cyngor CCAUC, a fydd yn ymadael â'u swyddi o ganlyniad i'r newidiadau hyn. Maen nhw wedi gwneud cyfraniad sylweddol i addysg uwch yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd.

Dirprwy Lywydd, ni ellir amau ehangder ein huchelgais nac ehangder y diwygiadau hyn. Rwy'n croesawu'r consensws eang sy'n bodoli, a'n bod yn cytuno hefyd nad yw cadw pethau fel ag y maen nhw yn ddewis ymarferol. Nid ydyw'n ddewis ymarferol ar gyfer dysgwyr, nac ar gyfer darparwyr na'r genedl gyfan. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i wneud hyn yn iawn a sicrhau system PCET a fydd yn diwallu anghenion pawb ac yn helpu i saernïo Cymru sy'n fwy llewyrchus a llwyddiannus.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:45, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw ac am hysbysiad ymlaen llaw am y datganiad hwnnw, ac, yn wir, i bob un o'r unigolion a wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Papur Gwyn?

Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r cynnig i sefydlu Comisiwn ymchwil ac addysg drydyddol i Gymru yn un y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei lwyr gefnogi. Ac er fy mod i'n gwerthfawrogi'r hysbysiad fod y Llywodraeth bellach yn mynd i symud ymlaen at ymgynghoriad technegol, rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig iawn egluro ein bod yn wynebu heriau difrifol yn y sector addysg ôl-orfodol ar hyn o bryd, a'i bod yn rhaid inni symud tuag at wella'r sefyllfa honno cyn gynted ag y bo'r modd.

Felly, mae'r diwygiadau hyn, yn fy marn i, yn rhoi cyfle hollbwysig i greu'r system addysg a hyfforddiant hyblyg ac ystwyth yr ydym ni i gyd yn awyddus i'w gweld, a chyfeiriwyd at hynny ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth.

Tybed, er hynny, a fyddai modd ichi roi amserlen glir inni ar gyfer dod â'r ymgynghoriad technegol i ben a phryd yr ydych yn disgwyl y gallwch weithredu ar unrhyw argymhellion sy'n deillio o hynny, ar ôl ichi ystyried yr ymatebion hynny i'r ymgynghoriad, er mwyn inni allu cyrraedd y man sy'n ddymunol inni i gyd mor fuan â phosibl.

 Ni wnaethoch gyfeirio at lwybrau galwedigaethol yn eich datganiad heddiw, ac fe wnaethoch chi sôn yn fyr am astudiaeth ran-amser, ond ddim ond yn fyr iawn oedd hynny. Fel y gwyddoch chi, bydd y comisiwn newydd, yn fy marn i, yn gyfle cyffrous i hyrwyddo cymwysterau galwedigaethol ac, yn wir, astudiaeth ran-amser. Rwy'n gwybod eu bod wedi cael tipyn o wefus-wasanaeth yn y gorffennol, credaf ei bod yn ddigon teg dweud hynny, gan rai o'ch rhagflaenwyr—nid y chi, rwy'n prysuro i ychwanegu—ond bydd angen rhai newidiadau mentrus yn y system addysg ôl-orfodol os ydym yn awyddus i wireddu'r uchelgais sydd gennym ar gyfer myfyrwyr rhan-amser ac, yn wir, ar gyfer dysgwyr galwedigaethol hefyd.

Felly, tybed a allech chi amlinellu a oes unrhyw gynlluniau ar y gweill i sicrhau bod y comisiwn newydd yn rhoi'r un flaenoriaeth i addysg alwedigaethol a rhan-amser, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw'r comisiwn newydd hwnnw yn gorbwysleisio addysg uwch sydd, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, wedi bodoli, o bosibl, yn y gorffennol.

Roeddech chi hefyd yn sôn am ehangu'r hygyrchedd ar gyfer grwpiau nad oes ganddyn nhw gynrychiolaeth ddigonol—rhywbeth arall yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn. Un o'r pethau hynny sydd weithiau yn faen tramgwydd i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yw hyblygrwydd y cyrsiau a'r ariannu sydd ei angen weithiau i helpu pobl i gael mynd ar y cyrsiau hynny. Felly, rwy'n credu bod angen amlwg inni weld rhywfaint o newid o ran hygyrchedd a'r modd y caiff cyrsiau addysg eu cyflwyno. Rhai o'r grwpiau sy'n wynebu'r rhwystrau hynny, wrth gwrs, yw grwpiau Sipsiwn a Theithwyr, grwpiau lleiafrifoedd ethnig ac, yn wir, blant sy'n derbyn gofal—nid yw'r rhain yn cael eu cynrychioli'n ddigonol o bell ffordd mewn addysg ôl-orfodol. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym beth yn union yr ydych yn mynd i'w wneud, yn arbennig i gefnogi'r grwpiau hynny, a beth fyddwch chi yn eu rhoi yn dasgau i'r comisiwn newydd o ran gwella hygyrchedd i addysg ôl-orfodol ar gyfer yr unigolion hynny.

Yn ogystal â hynny, o ran ariannu a threfniadau hyblygrwydd, mae angen amlwg fod angen inni edrych ar sut y mae pobl yn defnyddio'r cyrsiau a sut y gall pobl newid, efallai, o un cwrs i un arall pe bai eu hamgylchiadau'n newid. Weithiau, mae pobl yn cael eu taflu allan o'r system am fod ganddyn nhw angen iechyd am gyfnod, ac yn amlwg mae'n bwysig fod cyfle iddynt allu ailafael yn eu hastudiaethau. Weithiau, mae pobl yn symud o un rhan o'r wlad i ran arall ar ganol eu cwrs ac mae'n bwysig eu bod yn gallu cymryd y credydau hynny gyda nhw o'r cyrsiau y maen nhw wedi eu dechrau. Ac eto i gyd, mae'r rhain yn faterion mawr nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn cael eu datrys yn hawdd yn y system bresennol o addysg ôl-orfodol. Felly, tybed a fydd y rhain yn faterion penodol y byddwch chi'n awyddus i'r comisiwn ganolbwyntio arnyn nhw. 

Y peth arall na chlywais i chi'n cyfeirio ato heddiw oedd rhywbeth sydd mewn gwirionedd yn sail i holl bwrpas y diwygiad hwn, sef gyrfaoedd. Gwyddom ein bod eisiau paru pobl â gyrfa briodol y gallan nhw ei mwynhau a chael bywyd bodlon ynddi hi, ond gwyddom hefyd fod prinder cyngor gyrfaoedd o ansawdd uchel ar gael i bobl yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd y tu hwnt i oedran addysg orfodol. Felly, sôn yr wyf am oedolion sydd o bosibl yn ddiweddarach yn eu bywyd yn gobeithio dychwelyd i'r gweithlu, neu sydd wedi cael eu diswyddo neu, oherwydd amgylchiadau, sy'n gorfod newid gyrfa ac efallai y bydd angen cymorth, cyngor a chanllawiau i'w rhoi ar ben y ffordd. Felly, eto, tybed a allai'r comisiwn gael swyddogaeth yn hyn o beth ac a yw hynny'n rhywbeth y byddech yn awyddus iddyn nhw edrych arno.

Ac yn olaf, os y caf i, ar fater yr iaith Gymraeg, rwy'n gwybod bod darn o waith ar wahân yn cael ei wneud o ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'i swyddogaeth, ond a wnewch chi sicrhau y bydd swyddogaeth y coleg yn rhan annatod, yn wir, o'r ffordd y mae'r comisiwn hwn yn gweithredu, fel y gall pob un sicrhau bod yna ymdrech ar y cyd, ledled yr holl sector addysg, i gefnogi'r uchelgais sydd gennym ni yn y Siambr hon, hynny yw, gweld yr 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg hynny o fewn yr amserlen a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, sef 2050? Diolch.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:50, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Darren Millar am y gyfres hon o gwestiynau, ac am ei gefnogaeth mewn egwyddor i'r agenda o ddiwygio sydd gennym ni gerbron? Mae Darren, fel finnau, yn deall nad yw'r sefyllfa sydd ohoni yn ddewis o gwbl, ac un o'r ffactorau sydd wedi ysgogi'r diwygio yw rhai o'r problemau a'r sylwadau y mae Darren newydd eu gwneud am rai o'r heriau sy'n wynebu myfyrwyr.

Mae angen inni gael system sy'n gwrando'n wirioneddol ar lais y myfyrwyr, sy'n cydnabod nad yw'n gymwys bellach ystyried myfyriwr fel rhywun sy'n gadael ysgol yn draddodiadol yn 18 mlwydd oed. Mae angen inni ddatblygu system addysg ôl-orfodol sy'n cydnabod bod pobl yn gallu mynd i mewn ac allan o addysg gydol eu hoes a'u gyrfaoedd wrth inni addasu i economi sy'n newid yn barhaus. Bydd angen hyblygrwydd ar fyfyrwyr i allu astudio, weithiau'n amser llawn neu weithiau'n rhan amser, yn gyfochrog â'r gwaith neu, efallai, gyfrifoldebau gofalu. Mae'r holl ganolbwyntio ar greu un corff i oruchwylio'r sector cyfan hwn yn rhoi cyfle inni allu sefydlu system o'r fath, ac rwy'n croesawu ei gefnogaeth ef i hynny.

Os caf i droi at rai o'r materion penodol sy'n cael eu codi ganddo, Darren, fel chithau, rwyf i o'r farn ei bod yn rhaid inni gydnabod, er gwaethaf llawer o'r dadleuon yn y Siambr hon a llawer o areithiau gan Weinidogion, Ysgrifenyddion y Cabinet ac, yn wir, wleidyddion y gwrthbleidiau, nad yw llwybrau academaidd a galwedigaethol drwy addysg yn cael eu hystyried yr un mor werthfawr â'i gilydd. Mae hynny'n rhywbeth sy'n ofid mawr i mi. Mae tystiolaeth yn awgrymu nad yw dysgwyr—dysgwyr ifanc, yn arbennig—na'u rhieni bob amser yn cael yr wybodaeth na'r cyngor gorau i'w tywys nhw tuag at y dewisiadau addysg a gyrfa mwyaf priodol iddyn nhw. Dyna oedd un o'r negeseuon cryfaf a gawsom ni o ganlyniad i'n hymgynghoriad â dysgwr: mae pobl ifanc yn dweud, 'Nid ydym yn cael y cyngor sydd ei angen arnom i wneud y dewisiadau hynny.' Eto i gyd, un o'r seiliau rhesymegol y tu ôl i'r diwygio hwn yw dweud bod y cyrsiau hyn, y llwybrau hyn i gyflogaeth, i addysg ac astudiaeth, o'r un gwerth â'i gilydd. Gan ddibynnu ar eich dyheadau, eich uchelgeisiau gyrfaol, yna nid un ffordd gywir neu anghywir, neu un ffordd well neu waeth, sydd o gyflawni hynny. Eto i gyd, dyna un o seiliau rhesymegol y tu ôl i'r diwygio hwn.

Ond mae'n rhaid inni gael yr wybodaeth yn iawn; mae'n rhaid inni gael hynny'n iawn ar gyfer pobl ifanc, a rhaid inni ei chael yn iawn ar gyfer pobl hŷn sydd efallai yn wynebu newidiadau yn eu gyrfa neu efallai eu bod yn chwilio am gyfleoedd newydd o ganlyniad i golli eu swyddi neu newid yn amgylchiadau eu bywyd. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, efallai, nad ydym wedi datblygu hyn i'r graddau y byddem wedi ei hoffi, ac mae'n rhywbeth sy'n ffynhonnell gyson o drafodaeth rhyngof i a'r Gweinidog, yn ogystal ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, wrth inni edrych ar raglenni cyflogadwyedd a datblygiad economaidd yn gyffredinol. Bydd angen inni wneud rhagor o waith yn y maes hwn i wneud y cynnig iawn, oherwydd os gwrandawn ni ar fyfyrwyr a phobl ifanc, nid ydyn nhw'n cael hynny ar hyn o bryd. Mae'n rhaid inni fod yn onest am hynny, fel arall nid oes unrhyw bwynt inni gynnal yr ymgynghoriad os nad ydym yn barod i ystyried yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym.

Mae hygyrchedd, wrth gwrs, wrth wraidd y diwygiadau cymorth i fyfyrwyr. Dyna pam y byddwn ni'n unigryw yn y DU pan fyddwn yn cynnig cymorth pro rata ar gyfer dysgwyr rhan-amser mewn addysg uwch. I'r rhai sydd yn y maes addysg bellach, rydym wedi cynnal ein hymrwymiad i'r lwfans cynhaliaeth addysg, sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc o gefndir tlotach gael cymorth ariannol yn y sector addysg bellach. Bydd plant sy'n derbyn gofal, wrth gwrs, yn gymwys i gael y lefel uchaf o gymorth cynhaliaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gynnig: dros £9,000 i'w galluogi i astudio ar lefel addysg uwch. Yr her fwy i ni, rwy'n credu, yw sicrhau bod mwy o blant sy'n derbyn gofal yn cael cyfle i wneud cais am y grant cynhaliaeth. Mae hynny'n mynd yn ôl at y camau gweithredu ar draws yr adran addysg i gefnogi plant sy'n derbyn gofal yn eu haddysg, oherwydd rwy'n awyddus bod mwy ohonyn nhw'n gallu cael gafael ar y grant cynhaliaeth hwnnw. Mae gennym hefyd system cymorth i fyfyrwyr anabl, a adolygwyd yn annibynnol yn ddiweddar, a chanfu'r adolygiad hwnnw ei fod yn gynllun llwyddiannus iawn sy'n helpu'r bobl hynny ag anableddau i fynd ymlaen i addysg uwch.

O ganlyniad i'r diwygiadau hyn, fy mwriad i yw y dylai fod yn haws i fyfyrwyr allu newid cyrsiau, cario credydau ymlaen, a chael dull cyfunol o astudio—rhan-amser, amser llawn, gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau. O ran y coleg, fel y gwyddoch, rwyf i o'r farn fod y coleg Cymraeg yn gwneud gwaith rhagorol yn ehangu hygyrchedd i gyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Credaf fod yr egwyddor o ymestyn hynny i addysg bellach ac addysg sy'n seiliedig ar waith, fel bod cyfle i bobl gael eu haddysg a chael eu hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg, yn arbennig o hanfodol mewn rhai sectorau lle mae prinder gweithwyr proffesiynol. Dim ond yn ddiweddar, yn y ddadl ar anghenion dysgu ychwanegol, roeddem yn sôn am lu o weithwyr proffesiynol y mae angen sgiliau iaith Gymraeg arnyn nhw ar hyn o bryd nad oes gennym ar hyn o bryd. Mae'n gwbl hanfodol inni ddatblygu swyddogaeth y coleg yn unol â'n diwygiadau PCET ac rwy'n credu eu bod mewn cytgord.

Ond mae'n rhaid i mi ddweud, Dirprwy Lywydd, fy mod yn ddiolchgar iawn am y modd y mae Darren Millar wedi chwarae ei ran yn hyn. Fel finnau, mae ganddo uchelgais mawr ar gyfer y rhan arbennig hon o'n sector addysg a hyfforddiant, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Darren ar yr ymgynghoriad technegol, a fydd yn cael ei ryddhau yn y flwyddyn newydd. Gweinidog wyf i sy'n awyddus i fwrw ymlaen â phethau, a byddwn yn ceisio gwneud cynnydd cyn gynted ag y bo modd, ond gan gydnabod mai cyfres sylweddol o ddiwygiadau yw hon ac mae angen inni eu cael nhw'n iawn.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:57, 5 Rhagfyr 2017

A gaf innau hefyd ategu'r diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad? Rydw i'n edrych ymlaen at weld cynnydd yn y broses yma dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf ar hyd yr un llinellau ag sydd eisoes wedi cael eu mynegi. Yn sicr, mae hi yn daith sy'n mynd i'r cyfeiriad iawn. Mae'n debyg, efallai, y byddwn ni angen trafod ymhellach pan ddaw'r glo mân i'r amlwg ond, yn sicr, rydym ni'n gefnogol i'r bwriad yn y pen draw. A gaf i ddiolch hefyd i'r Ysgrifennydd am ei datganiad ei bod hi'n ymrwymo i ymwneud agos â budd-ddeiliad ac i ymwneud ar draws y Siambr, hefyd, wrth i'r diwygiadau yma symud yn eu blaenau?

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Gofynnodd yr holwr blaenorol yn benodol am amserlen yr ymgynghoriad technegol. Mae gennyf ddiddordeb yn eich cadarnhad, efallai, ei bod yn dal yn fwriad gennych y bydd y ddeddfwriaeth hon wedi cwblhau ei thaith drwy'r Cynulliad hwn erbyn diwedd y Cynulliad hwn. Efallai y gallech nodi rhai cerrig milltir allweddol i ni ar y daith honno os oes modd, fel y gallwn gael yr amserlen fras honno ychydig yn fwy eglur yn ein meddyliau, gan fod yna nifer o gychod yn y dŵr yma, mewn gwirionedd. Roeddech chi'n sôn am nifer o adolygiadau: yr ymgynghoriad technegol ei hunan, wrth gwrs; adolygiad Reid, a fydd yn bwydo i mewn i hwnnw; ac adolygiad Weingarten, hefyd. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed sut yr ydych chi'n credu y bydd y rhain i gyd yn dod at ei gilydd mewn gwirionedd ac yn cyd-fynd â'i gilydd yn effeithiol i sicrhau y byddant i gyd yn cael eu hystyried yn llawn.

Rwyf i wedi codi'r cwestiwn am y chweched dosbarth gyda chi o'r blaen, ac roedd yn y Papur Gwyn, ac yn gwbl briodol felly. Rydych chi'n dweud bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr o blaid cynnwys y chweched dosbarth yn y system arfaethedig, er bod rhai wedi dadlau'r achos, os mynnwch chi, dros ei gyflwyno'n ddiweddarach gam wrth gam. Tybed a fyddai modd ichi ddweud wrthym pa wybodaeth neu drafodaethau sydd eu hangen arnoch chi eto ar gyfer dod i benderfyniad a sut y gallai hynny o bosibl effeithio ar yr amserlen. A fyddai hynny'n gofyn am ddeddfwriaeth yn ddiweddarach? Neu a fyddech chi'n ymgorffori hynny yn eich deddfwriaeth arfaethedig ar gyfer rhywbeth sydd yn mynd i gael ei gyflwyno'n ddiweddarach? Oherwydd, yn amlwg, mae llawer ohonom yn gobeithio y bydd hwn yn ddiwygio cydlynol a chynhwysfawr o ran y sector. Os byddwn yn dechrau dosrannu darnau ohono y perygl yw y bydd yn dameidiog. Rwy'n deall yr anawsterau ynglŷn â'r mater penodol hwnnw, ond hoffwn i glywed ychydig rhagor am eich syniadau chi i'r perwyl hwn.

Roeddech chi'n sôn am ddysgu oedolion yn y gymuned—clywsom ei enw gennych chi—ar ddechrau eich datganiad. Nid oes llawer mwy i'w gael ac, yn amlwg, rydym clywed un neu ddau o bethau gennych yn eich ymateb diwethaf. Yn amlwg, mae'r gostyngiad mewn darpariaeth addysg ran-amser i oedolion yn peri pryder mawr, ac mae rhai pobl yn teimlo bod dysgu cymunedol i oedolion ar ei liniau i raddau helaeth iawn ar hyn o bryd. Felly, mae'r sector yn dweud wrthyf i na all aros am y newidiadau hyn, er mai ychydig iawn oedd, mewn gwirionedd, yn y Papur Gwyn am addysg i oedolion yn y gymuned. Mae 'na berygl y byddwn yn sôn gormod am golegau chweched dosbarth, prifysgolion—mae angen inni eu trafod nhw, wrth gwrs, ond rwyf i o'r farn fod angen inni gael y cydbwysedd iawn. Felly, byddai gennyf i ddiddordeb mewn clywed ychydig yn fwy am sut y gallwn mewn gwirionedd ymgorffori llais y sector yn y trafodaethau o hyn ymlaen, a pheidio â syrthio i fagl gwefus-wasanaeth—credaf mai dyna'r ail dro y defnyddiwyd yr ymadrodd hwnnw—a sut y bydd y llais hwnnw yn cael ei glywed yn swyddogaeth y comisiwn, gan ein bod yn dod yn ôl at yr egwyddor hon o barch cydradd yr ydym ni i gyd yn ei geisio, a byddai'n dda o beth cael mwy o eglurder, eto, ar hynny.

Roeddech chi'n cyffwrdd ag ymestyn swyddogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Hoffwn ailadrodd bod angen inni wneud yn siŵr nad yw'r swyddogaeth hon yn cael ei herydu mewn unrhyw ffordd, a'i bod yn cadw ei chyfrifoldeb presennol, ei chyfrifoldeb ychwanegol a'i swyddogaeth unigryw yn y dirwedd newydd. Efallai y gallech chi gydnabod—neu a fyddech chi'n cydnabod—bod yn rhaid i gyfrifoldebau ychwanegol olygu adnoddau ychwanegol hefyd, er ein bod mewn cyfnod anodd iawn yn hynny o beth. Ond byddai rhywun yn disgwyl fod yn rhaid i un ddilyn y llall.

Ar y pwynt hwnnw, mae'n debyg ei bod yn rhy gynnar inni ddechrau siarad am gyllidebau a phethau o'r fath ar gyfer y corff newydd arfaethedig. Ond cofiaf yn iawn, pan gafwyd trafodaethau am sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru, mai un o'r rhesymau a gyflwynwyd oedd y byddai'n creu arbedion effeithlonrwydd. Nid wyf i'n siŵr a yw hynny'n rhan o'ch ystyriaeth chi neu i ba raddau y gallai fod yn tywys peth o'r hyn sy'n cael ei chwarae i'r diwedd nawr. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed a ydych chi'n rhagweld unrhyw fath o arbedion effeithlonrwydd arfaethedig yn sgil y trefniant newydd—neu efallai nad yw hynny'n rhan o'ch ystyriaeth o gwbl? Byddai'n ddiddorol cael gwybod, mewn gwirionedd, ar ba bwynt y credwch chi y daw hynny'n fwy eglur.

Rydym wedi crybwyll mynd i'r afael â'r rhwystrau i addysg ôl-orfodol a hyfforddiant, a'r toriadau sydd wedi cael effaith anghymesur ar nifer o grwpiau. Rwy'n tybio y byddai'r cytundebau canlyniad yr ydych yn sôn amdanyn nhw yn y datganiad yn bwriadu mynd i'r afael â rhai o'r rheini i sicrhau y bydd pobl â chyfrifoldebau gofal, neu'r rheini sydd angen mathau penodol o gymorth, yn cael cynnig hynny. Rydych chi'n dweud ei bod yn egwyddor ysgogol ar gyfer eich diwygiadau cymorth i fyfyrwyr i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau hyn, a dim ond ceisio cadarnhad yr wyf i y bydd yn rhan annatod o gylch gwaith y comisiwn.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:03, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Llŷr eto am ei gefnogaeth mewn egwyddor i'r agenda ddiwygio hon? Mae'r consensws yr ymddengys sydd gennym yn y Siambr heddiw yn adlewyrchu'r consensws ledled Cymru o ran yr angen i symud ymlaen yn hyn o beth, a chaiff hynny ei adlewyrchu yn yr ymgynghoriad.

O ran amserlenni, yr hyn yr wyf wedi ei ddysgu dros y 18 mis diwethaf yw bod yn ochelgar iawn wrth ymrwymo i amserlenni penodol. Yr hyn yr wyf wedi ei ddysgu hefyd yw fod y pethau hyn yn cymryd llawer mwy o amser nag y byddech chi'n ei ragweld yn wreiddiol yn y Llywodraeth. Ond fy mwriad yw cynnal ymgynghoriad technegol yn y flwyddyn newydd, a'm bwriad pendant o hyd yw cyflwyno deddfwriaeth, a chyda chydweithrediad y Siambr cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Dyna'r hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud wrth gychwyn. Ond, eisoes, wrth ddechrau pennu cwmpas y ddeddfwriaeth a allai ddeillio o hyn—ac rydym ar gam cynnar iawn. Mae eisoes yn edrych  fel y gallai hwn fod y darn mwyaf oll o ddeddfwriaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol erioed wedi gorfod ymdrin ag ef, ar adeg pan fo llawer o ddeddfwriaeth yn mynd drwy'r Cynulliad. Ond fy mwriad pendant i a'm gobaith yw y gallwn gyrraedd y diwedd cyn  tymor y Cynulliad.

O ran cyllid, caiff y costau eu hystyried yn llawn yn rhan o'r broses datblygu polisi ac yn y pen draw, wrth gwrs, bydd angen eu nodi, fel y mae'n ofynnol gan y Rheolau Sefydlog, yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Wrth gwrs, caiff y costau eu pennu gan bwerau a swyddogaethau'r corff yr ydym yn bwriadu ei sefydlu, a chan ein bod ni'n dal wrthi'n penderfynu ar hynny, nid wyf yn ystod y cam hwn yn gallu rhoi llawer iawn o fanylion i'r Aelod. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw fy mod yn gobeithio cyhoeddi asesiad rheoleiddiol rhannol, gan nodi'r fethodoleg ar gyfer pennu costau, ochr yn ochr â'r ymgynghoriad technegol. Felly, dyna'r hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud, er mwyn rhoi cyfle i'r Aelodau weld sut y bydd y Llywodraeth yn y pen draw yn cyrraedd yr ystyriaethau cyllideb sy'n gysylltiedig â hyn. Rwy'n gobeithio y caiff hynny groeso gan Aelodau o bob ochr ac y bydd yn cynorthwyo Aelodau yn y swyddogaeth graffu sydd ganddyn nhw yma.

I egluro, bydd adolygiad Reid, sy'n edrych ar ymchwil ac arloesedd, yn cael ei gyhoeddi yn gynnar iawn yn y flwyddyn newydd, ac mae hynny'n rhan annatod o'n meddylfryd o ran sut y gallwn ni ddatblygu'r darn pwysig iawn hwnnw o'r hyn y bydd y comisiwn yn gyfrifol amdano. Mae adolygiad Weingarten yn edrych yn benodol ar fater cytundebau canlyniadau. Fel y dywedais yn fy natganiad, nid oes consensws ar hyn o bryd ynghylch a oes modd i un—wyddoch chi, sut yn union fyddai'r cytundebau canlyniadau yn gweithio, o ystyried cymhlethdod a natur amrywiol y sector. Ac felly bydd adolygiad Weingarten, gan ŵr enwog iawn wrth gwrs yn y maes hwn yng Nghanada a systemau ledled y byd, yn hollbwysig i'n helpu ni i roi mwy o fanylion a gwell golwg ar sut y bydd y cytundebau canlyniadau hynny'n gweithio'n ymarferol.

Y chweched dosbarth—wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod yr Aelod wedi dweud ei fod o blaid cynnwys y chweched dosbarth. Nodaf nad oedd wedi nodi hynny'n ysgrifenedig yn yr ymgynghoriad, ond credaf ei fod yn awgrymu mai dyna yw ei ddewis. Nid dyna ddewis y rhan fwyaf yn sicr o'r bobl a wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad, ond, wrth gwrs, mae hynny'n mynd yn groes i argymhelliad Ellen Hazelkorn, nad oedd mewn gwirionedd yn argymell y ffordd honno ymlaen ac a ddangosodd, mewn systemau rhyngwladol eraill y bu hi'n edrych arnyn nhw, nad oedd y chweched dosbarth yn rhan o'r system honno. A dyna pam y mae angen inni, unwaith eto, roi gryn ystyriaeth i fanteision ac anfanteision ei gynnwys.

Yr hyn sy'n wir ei ddweud o'r ymgynghoriad yw bod pobl i raddau helaeth iawn o'r farn, os ydym i chwalu'r rhaniad artiffisial hwn a'r gwahaniaeth ymddangosiadol hwn o ran parch cydradd rhwng y galwedigaethol a'r academaidd, ei bod yn bwysig iawn fod y chweched dosbarth yn cael ei gynnwys. Ond gallai fod yn wir, o ystyried y bydd gan y Comisiwn hwn dasg mor fawr, bod modd inni ddeddfu mewn ffordd a fyddai'n caniatáu i'r chweched dosbarth gael ei gynnwys yn y comisiwn yn ddiweddarach—heb angen deddfwriaeth sylfaenol ychwanegol, ond i greu amgylchiadau yn y ddeddfwriaeth wreiddiol a fyddai'n caniatáu i hynny ddigwydd yn ddiweddarach. Ond mae angen inni, unwaith eto, gael trafodaethau ystyriol iawn â rhanddeiliaid ynghylch manteision ac anfanteision y cynigion penodol hynny.

Rwy'n credu bod hynny wedi mynd i'r afael â'r rhan fwyaf o'r materion. O ran oedolion a rhan-amser, mae hynny'n un o'r rhesymau dros groesawu Aelodau newydd ar Fwrdd CCAUC, oherwydd ni allwn eistedd yn ôl ac aros nes i'r comisiwn newydd gael ei sefydlu; mae angen inni fod yn datblygu syniadau nawr yn y maes hwn. Mae angen inni gael CCAUC a rhanddeiliaid eraill yn gweithio tuag at yr agenda hon ar hyn o bryd. Dyna pam yr wyf i'n falch iawn o ddweud y bydd gennym arbenigwyr yn y maes addysg seiliedig ar waith yn ymuno â CCAUC o 1 Rhagfyr, a bydd gennym hefyd arbenigwyr ym maes addysg oedolion ac addysg ran-amser yn ymuno â bwrdd CCAUC yn ddiweddarach eleni pan fydd swydd yn dod yn wag.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 3:08, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad a'ch cyhoeddiad am ddiddymu'r CCAUC a chreu comisiwn newydd. Byddai'n dda gennyf wybod sut yr yr ydych yn rhagweld y modd y penodir y comisiynwyr hyn. A gaiff ei roi i dendr agored, gan hysbysebu am ymgeiswyr, neu a fydd, yn y bôn, yn apwyntiad mewnol drwy adran y comisiynwyr? Rydym wedi gweld canlyniadau byrddau a benodwyd yn sgil y methiannau o ran gofal yn ardal Betsi Cadwaladr yn y Gogledd, felly sut fyddwch chi'n sicrhau y bydd y Comisiwn yn briodol atebol?

Cafwyd ymgysylltiad â rhanddeiliaid, ac rwy'n nodi bod amrywiaeth o sefydliadau addysgol, sefydliadau a dysgwyr wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys y digwyddiadau i randdeiliaid. Mae cynyddu hygyrchedd ar gyfer grwpiau nad oes ganddyn nhw gynrychiolaeth ddigonol a diffyg y cyfleoedd ar gyfer astudio rhan-amser yn faterion o bwys i'r ymatebwyr, fel y dywedwyd gennych yn eich datganiad, ond mae'n ddrwg gennyf, Ysgrifennydd Cabinet, nad wyf mewn gwirionedd yn gweld unrhyw arwyddion eich bod chi'n ymdrin â'r broblem hyd yn hyn. 

Yn ôl yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ofn mynd i ddyled oedd yn cael ei ystyried yn rhwystr pennaf i ymgymryd ag addysg ôl-orfodol, ac rydym wedi cael trafodaethau am hynny o'r blaen. Mae'n amlwg y bydd hyn yn fwy o rwystr i bobl hŷn sy'n dymuno newid gyrfa neu ailgydio yn eu haddysg yn ddiweddarach yn eu hoes, ond mae'n ddrwg gennyf i, nid ydych chi wedi gwneud dim i gael gwared ar y rhwystr hwn. Yn wir, rydych chi'n gwneud pethau'n waeth. Mae gan y rhanddeiliaid a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad—mae ganddyn nhw safbwyntiau mor ddilys am y system ac maen nhw i'w canmol am eu gwaith yn cyfrannu at yr ymgynghoriad. Fodd bynnag, byddwn i'n  awgrymu, os ydych yn awyddus i gynyddu hygyrchedd addysg, y bobl y mae angen i chi siarad â nhw mewn gwirionedd yw'r rhai nad ydyn nhw'n cymryd rhan yn y system addysg ar hyn o bryd. Mae gan y bobl hynny sydd eisoes yn cymryd rhan yn y system addysg lawer iawn o wybodaeth a phrofiad a all gyfrannu'n amlwg at eich penderfyniadau am y sector hwnnw. Ond mewn gwirionedd nid yw'n eich hysbysu gyda manylder enfawr, o safbwynt personol iawn, am yr hyn sy'n gwneud i bobl ddigalonni a methu ag ailgydio yn eu haddysg ac uwchsgilio neu wella eu sgiliau mewn ffyrdd eraill pan fyddan nhw wedi gadael addysg orfodol ac mae'r syniad hwnnw sydd ganddynt o ddilyn addysg ôl-orfodol wedi dod i ben. Felly, hoffwn eich gweld chi'n ymgynghori gyda'r bobl hynny nad ydyn nhw'n ymgysylltu ar hyn o bryd â'r system addysg i ymchwilio i beth allai eu hannog i gymryd rhan yn y system addysg.

Nid wyf wedi fy synnu bod y cyngor a'r cymorth a roddir i ddysgwyr yn bryder allweddol, ac, o ystyried penderfyniad diweddar Ysgrifennydd y Cabinet i lethu myfyrwyr Cymru â dyledion, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cael hyn yn iawn. Rwy'n sylweddoli na fydd cymaint o fanylion ar gael yma ar hyn o bryd, yn anochel, oherwydd y cam yr ydych arni yn y broses, felly—. Rwy'n gweld eich bod wedi cyhoeddi ymgynghoriad manwl ar sut y bydd y comisiwn yn gweithio mewn gwirionedd ac rwyf i wir yn edrych ymlaen at weld yr ymgynghoriad hwnnw a'r ymatebion iddo hefyd. Diolch.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:12, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

O ran sefydlu'r comisiwn, fel y dywedais i, byddwn yn cynnal ymgynghoriad technegol. Fy mwriad i yw y bydd bwrdd gweithredol y comisiwn hwnnw'n cael ei benodi gan ddilyn gweithdrefnau arferol cystadleuaeth agored. O ran aelodau'r comisiwn, byddan nhw'n ddarostyngedig i'r broses penodiadau cyhoeddus sydd gennym ni yma yng Nghymru, proses yr ymgymerwyd â hi'n ddiweddar ar gyfer recriwtio aelodau newydd i fwrdd y CCAUC, bwrdd sydd wedi gwneud gwaith ardderchog yn cefnogi addysg uwch yng Nghymru, gwaith yr wyf i'n ddiolchgar iawn, iawn amdano. Rwy'n arbennig o falch ein bod wedi gallu denu ymgeiswyr o safon uchel i gymryd swyddi newydd ar fwrdd CCAUC, pobl o Gymru a thu draw i'r ffin sydd yn dymuno rhoi o'u hamser ac yn awyddus i fod yn rhan o'r cyfnod cyffrous hwn o ddiwygio addysg yng Nghymru.

Dirprwy Lywydd, mae'n ymddangos i mi nad oes fawr o bwynt i mi egluro unwaith eto i'r Aelod egwyddorion diwygio Diamond. I fod yn gwbl glir i'r Aelod unwaith eto: ni fydd yr unig ran o'r Deyrnas Unedig a fydd yn rhoi cymorth—gan gynnwys cymorth cynhaliaeth nad yw'n ad-daladwy—i fyfyrwyr rhan-amser. Ni fydd hyn yn digwydd yn yr Alban, nac yn digwydd yn Lloegr, nac yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Yn wir, mae'r gwledydd hynny a'r rhannau hynny o'r sector sy'n gweithio y tu allan i Gymru yn edrych yn genfigennus ar y ffordd yr ydym yn mynd i gefnogi'r sector rhan-amser, oherwydd rydym ni, yn y Llywodraeth hon, yn cydnabod bod astudio'n rhan-amser yn hollbwysig, nid yn unig i'r unigolion hynny, ond i gyfoeth economaidd y wlad. Un o broblemau Cymru yw cynhyrchiant ac rydych yn gwella cynhyrchiant nid yn unig drwy fuddsoddi mewn offer a pheiriannau—ond drwy fuddsoddi yn eich gweithlu, a byddwn yn helpu i greu'r amgylchedd fydd yn galluogi pobl i astudio yn rhan-amser. Fy her i i'r sector busnes fydd ymgysylltu â llawer o gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i helpu i roi cymorth i hyfforddi eu gweithwyr ar gyfer lefelau uwch o sgiliau fel y gallwn ni godi economi Cymru. Ond rwyf wedi esbonio hyn i'r Aelod dro ar ôl tro. Ymddengys yn benderfynol i beidio â chydnabod yr hyn yr ydym yn ei wneud. [Torri ar draws.]

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:15, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Yn eich blaen. Yn eich blaen, Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Rwy'n sylweddoli  nad yw'r Aelod yn cytuno â hyn. Yr hyn sy'n bwysicach i mi yw bod Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn cytuno â hyn, mae'r sector addysg uwch yng Nghymru yn cytuno â hyn, ac mae arbenigwyr addysg uwch ledled y Deyrnas Unedig yn dweud yn gyson, 'os oes gennych chi ddiddordeb mewn polisi blaengar ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach, yna edrychwch tuag at Gymru.' Oherwydd ni, a dim ond ni, sy'n gwneud rhywbeth diddorol yn y maes. Gyda phob dyledus barch, yn fy marn i, y lleisiau hynny yw'r rhai y mae angen inni wrando arnyn nhw fel Llywodraeth.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.