Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol. Rwy'n falch o gyflwyno'r pedwerydd cam, sef cam olaf Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), gerbron y Cynulliad heddiw. Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am eu gwaith craffu cadarn ar y Bil ac am eu cefnogaeth, sydd wedi sicrhau ei hynt drwodd i Gyfnod 4. Yn benodol, hoffwn i ddiolch i Aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol Deddfwriaethol ac i'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu trylwyr ac ystyriol ar y Bil drwy gyfnodau 1 a 2. Hoffwn i hefyd gydnabod yr holl randdeiliaid a roddodd dystiolaeth yn ystod y broses graffu a diolch iddynt am eu cyfraniad i'r broses ddeddfwriaethol. Hoffwn ddiolch hefyd i staff Comisiwn y Cynulliad a swyddogion Llywodraeth Cymru am eu cymorth drwy gydol proses y Bil. Hoffwn hefyd ddweud pa mor falch y byddai Carl Sargeant o weld y Bil yn cyrraedd y cam terfynol. Bu'n frwdfrydig iawn dros ddiogelu ein stoc o dai cymdeithasol ar gyfer y rhai sydd ei hangen fwyaf, a gweithiodd yn eithriadol o galed i gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno. Rwyf wrth fy modd yn gallu ei llywio drwy ei chamau terfynol ac ar y llyfr statud i Gymru.
Mae'r Mesur hwn yn ffurfio rhan allweddol o bolisi tai'r Llywodraeth, ac roedd yn ymrwymiad maniffesto yn 2016. Mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymo i roi terfyn ar yr hawl i brynu ac i ddiogelu ein tai cymdeithasol ar gyfer y rheini sydd eu hangen fwyaf. Bydd rhoi terfyn ar yr hawl i brynu yn rhoi i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yr hyder i fuddsoddi mewn datblygiadau newydd ac yn helpu i ddiwallu'r angen am dai fforddiadwy o ansawdd yng Nghymru. Mae'r hawl i brynu wedi bod yn nodwedd o dai cymdeithasol yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ac mae hyn wedi arwain at golli nifer sylweddol o gartrefi—mwy na 139,000 rhwng 1981 a 2016. Yn y blynyddoedd diweddar, er bod gwerthiannau tai cymdeithasol wedi arafu, mae'r stoc o dai cymdeithasol yn dal yn cael ei cholli ar adeg o gryn bwysau ar gyflenwi tai. Roedd mesurau a gymerwyd gan y Llywodraeth Cymru flaenorol i fynd i'r afael ag effaith colli cartrefi drwy'r cynllun hawl i brynu, a'r pwysau parhaus ar dai cymdeithasol, yn cynnwys cyflwyno Mesur Tai (Cymru) 2011. Roedd hyn yn galluogi'r awdurdod lleol i wneud cais i atal yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael yn ei ardal. Er bod yr hawl i brynu wedi ei atal mewn rhai rhannau o Gymru, mae pwysau oherwydd prinder tai sylweddol yn parhau i fod yn bresennol ledled y wlad.
Cyflwynwyd y Bil hwn ym mis Mawrth yn dilyn ymgynghoriad Papur Gwyn yn 2015 i fynd i'r afael â phwysau parhaus ar dai a sicrhau bod tai cymdeithasol yn cael eu diogelu ledled Cymru ar sail barhaol. Mae'r Bil yn diddymu'r holl amrywiadau o ran yr hawl i brynu, gan gynnwys yr hawl i brynu a gadwyd a'r hawl i gaffael. Mae'r darpariaethau yn y Bil hefyd yn caniatáu o leiaf blwyddyn ar ôl Cydsyniad Brenhinol cyn diddymu'n derfynol eiddo sydd eisoes yn bodoli. Ond, er mwyn annog buddsoddiad mewn cartrefi newydd, daw'r hawliau i ben ar gyfer cartrefi sy'n newydd i'r stoc tai cymdeithasol ac, felly, nad oes tenantiaid ynddynt, ddeufis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Mae un flwyddyn yn gyfnod o amser teg a rhesymol i denantiaid benderfynu a ydynt yn dymuno arfer eu hawliau ac i gael cyngor cyfreithiol ac ariannol priodol. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau i sicrhau bod pob tenant yn cael gwybodaeth o fewn dau fis i Gydsyniad Brenhinol, a bod yr wybodaeth hon yn cael ei darparu ar y fformat mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion. Mae'r ddarpariaeth hon yn sicrhau y bydd pob tenant yn gwbl ymwybodol o effaith y ddeddfwriaeth cyn iddi ddod i rym.
Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i alluogi perchentyaeth i'r rhai sy'n dymuno cael mynediad i'r farchnad eiddo. Rydym ar y ffordd i gyflawni ein hymrwymiad maniffesto o 20,000 o gartrefi ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Cafodd cynlluniau'r Llywodraeth, megis Cymorth i Brynu, Cymorth Prynu a Rhent i Brynu, eu creu i helpu pobl ar incwm cymedrol i allu fod yn berchen ar eu cartrefi, ond nid ar draul lleihau'r stoc tai cymdeithasol. Mae rhoi terfyn ar yr hawl i brynu yn sicrhau ein bod yn diogelu'r buddsoddiad a wnaed mewn tai cymdeithasol dros nifer o genedlaethau ar gyfer teuluoedd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.