Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Diolch, Llywydd, ac fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid newydd amlinellu, dyma'r tro cyntaf yr ydym wedi edrych ar gyllideb yn y modd yma—ffordd gyllidebol newydd gan y Llywodraeth a ffordd newydd o graffu ar y gyllideb hefyd—oherwydd bod Deddf Cymru 2014 wedi datganoli cyllid i Gymru ymhellach sy'n golygu taw ein rôl ni yn y Cynulliad bellach yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif, nid yn unig am gynlluniau gwariant, ond hefyd am y ffordd mae'r Llywodraeth yn codi arian drwy fenthyca a thrwy drethi ar eiddo a gwastraff tirlenwi ac, wrth gwrs, treth incwm maes o law yn ogystal. Gyda hynny, cytunwyd i newid y broses o graffu ar y gyllideb i sicrhau bod y Pwyllgor Cyllid yn cael y cyfle i drafod cynigion lefel uchel y Llywodraeth o flaenoriaethau gwariant a refeniw ac, wrth gwrs, fod pob pwyllgor arall yn edrych ar y cyllidebau unigol sy'n perthyn i adrannau'r Llywodraeth. Dyna beth sydd gyda chi fel Cynulliad yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid ac adroddiadau'r pwyllgorau eraill heddiw.
Un o'n prif ystyriaethau ni ar y Pwyllgor Cyllid oedd y pwerau newydd ynghylch trethiant, a sut y bydd y pwerau cyllidol newydd yn cael eu defnyddio. Rydym yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ddarparu manylion am ei gyfraddau treth arfaethedig ochr yn ochr â dogfennaeth y gyllideb ddrafft. Roedd y wybodaeth a ddarparwyd ochr yn ochr â chyhoeddi'r cynigion amlinellol ar gyfer y gyllideb yn cynnwys adroddiad y prif economegydd, adroddiad polisi treth Cymru a'r adroddiad gan Brifysgol Bangor. Fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod, ar y cyfan daethom i'r casgliad bod y wybodaeth a ddarparwyd yn gynhwysfawr ac o gymorth mawr wrth edrych ar y gyllideb. Rydym hefyd yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am gadarnhau munudau yn ôl fod Prifysgol Bangor yn parhau â'r gwaith gan ddiweddaru'r gwaith nawr yn wyneb cyllideb y Deyrnas Gyfunol sydd newydd ei chyhoeddi. Roedd o help mawr i'r pwyllgor i graffu ar y materion lefel uchel hyn.
Mynegwyd rhai pryderon hefyd ynghylch tryloywder y cyllid cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol cyn cyhoeddi'r setliad. Yn y dyfodol hoffem weld yr asesiad effaith integredig strategol yn egluro mwy o ran sut cafodd penderfyniadau eu blaenoriaethu a'u gwneud. Hefyd, mater sy'n thema barhaus o'n gwaith craffu llynedd yw'r wybodaeth sydd ar gael yn y gyllideb ddrafft am sut y caiff ymrwymiadau'r Llywodraeth eu blaenoriaethu a'u bwydo i mewn i ddyraniadau yn y gyllideb. Daethom i'r casgliad yr hoffem weld cysylltiadau cliriach rhwng y gyllideb ddrafft, rhaglen y Llywodraeth a'r strategaeth 'Ffyniant i Bawb'—hyn i gyd, wrth gwrs, yn gorwedd o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 bondigrybwyll yna.
Nid yw'n ddelfrydol y cyhoeddwyd cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yng nghanol ein gwaith o graffu ar y gyllideb ddrafft. Rydym newydd gael amlinelliad o'r problemau o du'r Llywodraeth gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ond fel pwyllgor rydym yn dal i gredu ei fod yn ddefnyddiol cael y manylion ynghylch bwriadau Llywodraeth Cymru yn gynnar yn y broses. Roeddem hefyd yn teimlo y byddai'n ddefnyddiol cael ffigurau dangosol ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ac er ein bod yn derbyn y gallai hyn fod yn anodd gan ddibynnu ar yr adolygiad gwariant cynhwysfawr, mae'n ddefnyddiol cael y manylion hyn lle bo hynny'n bosibl ac, wrth gwrs, mae wedi digwydd yn y gorffennol.