Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Yn sgil y newidiadau i gyfraddau’r dreth stamp a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai’n ystyried newidiadau i’r cyfraddau arfaethedig yng Nghymru. Roeddwn i'n hanner meddwl efallai y cawn i gyhoeddiad ganddo fe heddiw, ond ddim cweit. Cawn ni glywed maes o law, mae'n debyg. Beth sydd yn bwysig yw ein bod ni'n rhoi'r craffu priodol i'r argymhellion terfynol gan y Llywodraeth. Gwnaethom ni hefyd adrodd yn ein hadroddiad y gallai'r newidiadau hyn ar lefel y Deyrnas Gyfunol arwain at bwysau i gwblhau trafodion ar frys yng Nghymru, gan arwain at ddigolledu Llywodraeth Cymru. Rŷm ni newydd glywed cadarnhad gan Ysgrifennydd y Cabinet bod y digolledu o du y fframwaith cyllidol wedi digwydd. Fel y dywedodd ef, one-off ydy hwn, ac nid ydym yn disgwyl ei weld e yn y blynyddoedd i ddod.
Wrth ystyried cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer trethiant yn ystod y 12 mis nesaf, gwnaethom drafod y rhagolygon a ddefnyddiwyd i ragweld lefel yr incwm o drethi yng Nghymru. Mae tystiolaeth wedi dangos bod diffyg data yn gysylltiedig â Chymru yn benodol, ac roedd tystiolaeth gymysg o ran pa mor hanfodol yw hwn i sicrhau rhagolygon cywir. Fel pwyllgor, rydym yn cydnabod bod achos dros sicrhau bod gwybodaeth am Gymru yn benodol ar gael pan fo'n briodol ac yn rhoi gwerth ychwanegol.
Dyrannwyd cyllid ychwanegol i Gymru fel rhan o gyllideb y Deyrnas Gyfunol, ond roedd llawer iawn o’r cyllid hwn mewn gwirionedd ar ffurf cyfalaf trafodion ariannol—dyna'r tro cyntaf i'r geiriau yna gael eu defnyddio yn Gymraeg; financial transactions capital, mae'n debyg, ydy hynny. Cyfalaf trafodion ariannol: dyma rhywbeth y bydd y pwyllgor yn edrych mewn iddo fe yn ystod y flwyddyn i ddod i weld pa mor effeithiol ydyw ac i weld faint o ddefnydd ydyw, gan fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi awgrymu bod y math yma o gyllid yn gallu bod yn gyfyngedig ei ddefnydd yng Nghymru.
Mae dwy thema a ddaeth i’r amlwg yn ystod ein gwaith craffu y llynedd wedi codi eto eleni. Yn gyntaf, mae cyllid ar gyfer iechyd yn parhau i gael ei flaenoriaethu, er nad yw’n ymddangos bod y cyllid hwn yn helpu i wella gwasanaethau na gwaith cynllunio ariannol. Yn aml, mae blaenoriaethu iechyd yn digwydd ar draul meysydd eraill—llywodraeth leol yn benodol. Diddorol oedd nodi bod yr adroddiadau gan y pwyllgor iechyd a’r pwyllgor llywodraeth leol ill dau wedi codi materion tebyg.
Mae’r thema arall yn ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Y llynedd, gwnaethom ganfod taw ychydig o gynnydd oedd wedi’i wneud wrth ddangos sut mae’r Ddeddf wedi’i hymgorffori yn y gyllideb ddrafft, a chlywsom gan yr Ysgrifennydd Cabinet sut roedd y Llywodraeth wedi ceisio alinio’r gyllideb ddrafft â’r Ddeddf yn ystod y broses eleni hefyd. Rydym yn gwerthfawrogi y bydd yn cymryd amser i ymgorffori’r dull hwn yn llawn. Fodd bynnag, cawsom ein siomi nad oedd yna ragor o dystiolaeth o’r gwelliannau yr oeddem wedi gobeithio eu gweld. Ond, gallwn weld bod ymdrechion yn cael eu gwneud, yn enwedig drwy weithio gyda'r comisiynydd—Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru hynny yw—ym meysydd caffael, datgarboneiddio a chyllidebu cyfranogol, ac rydym yn gobeithio gweld rhagor o welliant yn y dyfodol.
Gwnaethom hefyd drafod y paratoadau ariannol sydd ar y gweill o ran Brexit. Rydym yn pryderu bod ansicrwydd ynghylch Brexit yn effeithio ar benderfyniadau busnesau ar hyn o bryd o ran buddsoddi. Rydym yn awyddus i weld mwy o waith yn cael ei wneud ar barodrwydd ariannol ar gyfer Brexit yng Nghymru a byddwn yn ystyried cynnal ymchwiliad i’r mater hwn yn y dyfodol. Mae hefyd yn faes, wrth gwrs, lle y mae'r Llywodraeth newydd amlinellu rhywfaint o'r arian sydd wedi dod yn y gyllideb sy'n gallu bod yn flaenoriaeth, o bosib, i baratoi'r economi a'r gymuned yng Nghymru ar gyfer Brexit.
Yn olaf, gwnaethom edrych yn fyr ar gynigion ar gyfer trethi newydd a chredwn fod hwn yn gam newydd cyffrous o ran datganoli cyllidol yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Ysgrifennydd Cabinet yn ystod y flwyddyn nesaf wrth gyflwyno treth ddatganoledig newydd, ac rydym yn cytuno y dylai rôl Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wrth drafod trethi newydd gael ei chyfyngu i faterion cymhwysedd a’r effaith ar refeniw’r Deyrnas Gyfunol yn unig. Fel pwyllgor, mae gennym ddiddordeb yn y ffordd y bydd y broses newydd yn gweithio, ac rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes yn gofyn iddo ymgynghori â ni ynghylch y gweithdrefnau newydd ar gyfer cyflwyno trethi newydd yng Nghymru.
Dyma’r flwyddyn gyntaf i’n gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft ganolbwyntio ar y manylion strategol, tra bod y pwyllgorau polisi wedi adrodd yn ôl i’r Cynulliad ar eu meysydd penodol nhw. Cyn y ddadl ar y gyllideb derfynol, byddwn yn trafod yr adroddiadau hynny, ac rwy’n gobeithio trafod y broses newydd gydag Aelodau eraill hefyd i ystyried a ellir gwneud gwelliannau ar gyfer y flwyddyn newydd. Byddwn i'n croesawu unrhyw sylwadau gan Aelodau ynglŷn â'r ffordd rŷm ni wedi craffu ar y gyllideb eleni a'r ffordd o wella at y dyfodol.
Ac, yn olaf, wrth gwrs, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith craffu eleni, ac, fel pwyllgor, rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl bobl sy’n cyfrannu at waith y pwyllgor ac sydd wedi’n cynorthwyo ni i lunio ein canfyddiadau, sydd yn sail i’ch trafodion chi prynhawn yma.