5. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 4:07, 5 Rhagfyr 2017

Cyn i mi orffen, hoffwn i droi tuag at un pwynt a gododd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn ei gyfraniad ef. Nid yw gweithredoedd y Llywodraeth yn cyd-fynd bob tro gyda'i rhethreg o fod eisiau rhedeg gwasanaeth iechyd mewn ffordd strategol a chynaliadwy. Rydym yn gwario, am resymau da iawn, gyfran enfawr o'r gyllideb genedlaethol ar y gwasanaethau iechyd—yn aml iawn i gost, fel sydd wedi cael ei ddweud, llywodraeth leol. Ac mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi amcangyfrif y gallai'r gyfran o gyllideb refeniw Llywodraeth Cymru y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei dderbyn godi 56 y cant os bydd Gweinidogion yn canfod yr arian sydd ei angen i gadw at y twf a ragwelir yn y galw. Mae'n rhaid, felly, mynd i'r afael â'r problemau strwythurol sydd yn bodoli yn y gwasanaeth iechyd, megis diffyg cynllunio yn y gweithlu.

Ond i gloi, Llywydd, fy nghanfyddiad i yw bod rhaid i ni fynd ati yn ddifrifol i edrych ar ddulliau newydd o allu codi arian ein hunain o fewn Cymru. Mae'r wlad yma wedi ailddechrau ar y siwrnai o fod yn endid fiscal, ond mae peth pellter i fynd eto. Bydd angen i ni fynd ati nawr er mwyn amddiffyn ein dinasyddion, ond hefyd er mwyn cyflawni potensial ein gwlad.