5. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 4:04, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Ar hyn o bryd mae economi'r DU yn tyfu yn arafach na'i holl gystadleuwyr economaidd o blith y gwledydd gyda'r economïau datblygedig. Drwy gymharu rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol gyda rhagolygon y Gronfa Ariannol Ryngwladol ar gyfer economïau eraill gwledydd y G7, mae'r ffaith bod cynhyrchiant wedi arafu wedi cyfyngu ar dwf, pwyso ar safonau byw, a rhoi y DU tu ôl i'r rhan fwyaf o'i chyd-wledydd yn y grŵp G7 o economïau diwydiannol mwyaf blaenllaw. Bydd economi Prydain hefyd ar waelod ardal yr ewro ar gyfer pob un o'r tair blynedd nesaf o leiaf, wrth i'w dwf ddisgyn i waelod y rhestr o 28 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae rhagolygon y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer 2018 a 2019 hyd yn oed yn is na'r amcangyfrif israddedig a gyhoeddwyd yn flaenorol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a hefyd yn amlygu sut mae'r sefydliad yn credu y bydd Brexit yn pwyso'n drwm ar ddyfodol y wladwriaeth—[ Torri ar draws.] Na wnaf, ni ildiaf—o ran perfformiad economaidd.

Mae hefyd yn bwysig rhoi ar gofnod y dylai pob un ohonom ystyried rhagolygon economaidd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fel y sefyllfa orau bosibl. Maen nhw'n ymgorffori effaith unrhyw fesurau treth a gwariant a gyhoeddodd Canghellor y DU yn y datganiad cyllideb a'r effaith ar dwf economaidd ar gyfer blynyddoedd dilynol. Fodd bynnag, mae'r rhagolygon yn seiliedig ar y sefyllfa bresennol o ran y berthynas fasnachu y mae'r DU yn ei mwynhau ar hyn o bryd gyda gwahanol farchnadoedd ledled y byd. Gwyddom y bydd y berthynas fasnachu bresennol yr ydym ni'n ei mwynhau gyda'r Undeb Ewropeaidd yn newid. Ni allwn, wrth gwrs, fod yn siŵr heddiw beth fydd natur y newid hwnnw, ond rwy'n credu bod profiad y 48 awr diwethaf yn awgrymu na fydd y berthynas fasnachu yr ydym ni'n ei mwynhau ar hyn o bryd yn ymestyn i'r dyfodol. Bydd unrhyw newidiadau yn y berthynas honno drwy'r tollau ychwanegol a'r rhwystrau di-dariff a osodir ar allforion y DU yn golygu y caiff y rhagolygon hynny yn anochel eu hisraddio ymhellach oherwydd yr effaith negyddol y byddai hynny yn ei chael ar gydbwysedd fasnach y DU.

Ond yn hollbwysig, Llywydd, gan roi y dimensiwn Brexit o'r neilltu, yr hyn sydd wedi dod yn gwbl amlwg, a'r hyn a gafodd ei gadarnhau yng nghyllideb y Deyrnas Unedig, yw bod crebachu cyllidol eithafol—cynni—yn hunandrechol. Dywedodd Canghellor diwethaf y Trysorlys, Mr Osborne, wrthym y byddai'r gyllideb yn cydbwyso neu y byddai arian dros ben ar ôl pum mlynedd o grebachu cyllidol sylweddol. Dywed y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wrthym na allwn ddisgwyl gweld arian dros ben yn y gyllideb yn awr tan ganol y degawd nesaf. Felly, bydd dinasyddion ym mhobman yn gofyn yn gwbl briodol beth ar y ddaear oedd diben yr holl boen hwn. Pam mae ein cymunedau wedi cael eu hysbeilio o'u hasedau? Pam mae gwasanaethau hanfodol wedi cael eu torri hyd at yr asgwrn? Pam mae'r rheini sydd â'r lleiaf wedi talu'r pris am gamgymeriadau yr ychydig ar y brig? Mae hefyd yn werth ailadrodd mai rhan o'r rheswm dros fethiant y DU i gynhyrchu twf economaidd hirdymor a chynaliadwy sy'n ailgydbwyso'r economi ac sy'n cael ei ledaenu y tu allan i ddinas wladwriaeth Llundain yw oherwydd bod Llywodraeth y DU yn gwrthod ailstrwythuro economi'r DU o blaid ail-ddiwydiannu a ffyniant i bob rhan o'r DU. Nid yn unig y mae'r DU yn ddiffygiol yn gyfansoddiadol; unwaith eto, fel y gwelsom yn y 24 awr diwethaf, mae'n sylfaenol ddiffygiol fel adeiledd economaidd hefyd.