5. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:31, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2018-19. Mae hwn yn nodi cyfnod newydd ar gyfer y Cynulliad hwn o ran ein pwerau a'n cyfrifoldebau gyda'r fframwaith cyllidol newydd, ac mae'n dda gweld hyn o'r diwedd yn cynnwys canlyniad diwygio fformiwla Barnett fel y mae'n gymwys i Gymru, gan arwain at £69 miliwn ychwanegol dros gyfnod y gyllideb ddrafft hon. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi croesawu'r cyfrifoldebau cyllidol newydd gyda'i sgiliau nodweddiadol, ond rwy'n bennaf gefnogol oherwydd y ffordd gadarn yr aeth ati i sicrhau bod ymrwymiadau Llafur Cymru yn cael eu blaenoriaethu yn y gyllideb. Yn ategu'r dull hwn o weithredu y mae ei ymrwymiad i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus mewn cyfnod o galedi a thoriadau.

Mae wedi bod yn llafar ac yn gyson yn ei wrthwynebiad i galedi, ond nid ef yw'r unig un yn hyn o beth. Y llynedd, rhybuddiodd economegwyr o'r Gronfa Ariannol Ryngwladol y gall polisïau llymder wneud mwy o niwed nag o les, ac fe wnaethon nhw rybuddiodd bod mwy o anghydraddoldeb yn andwyol i lefel a chynaliadwyedd twf—ac roedden nhw yn llygaid eu lle, gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn israddio twf dros y blynyddoedd nesaf.

Mae effaith ariannol negyddol cynni yn glir. Torrwyd ein cyllideb yma yn Llywodraeth Cymru 7 y cant dros y degawd diwethaf. Er gwaethaf hyn, mae ein Ysgrifennydd Cabinet wedi llunio cyllideb sy'n sicrhau ymrwymiadau maniffesto Llafur Cymru ar iechyd, tai, gofal cymdeithasol ac addysg, a negododd gytundeb cyllideb dwy flynedd gyda Phlaid Cymru, gyda manteision economaidd a chymdeithasol i Gymru.  

Wrth graffu ar y gyllideb ddrafft hon defnyddiwyd proses gyllidebol fwy trylwyr, gan arwain at adroddiad gan y Pwyllgor Cyllid, yr wyf yn falch bellach o fod yn aelod ohono, sy'n deg ac yn gadarn, ac mae'n dda gweld nifer o flaenoriaethau ar y cyd yn dod i'r amlwg sy'n cyd-fynd â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Yn y cyd-destun hwn, hoffwn i ganolbwyntio ar ddau faes o flaenoriaethau ar y cyd, sef gofal cymdeithasol a thai.

Roeddwn yn synnu nad oedd cyfeiriad at ofal cymdeithasol yng nghyllideb y DU, er ei fod yn fater allweddol yn eu datganiad ym mis Mawrth pan wnaeth Llywodraeth y DU mewn gwirionedd roi'r baich ar Lywodraeth Leol yn Lloegr i godi treth y cyngor i lenwi'r bylchau cynyddol ym maes gofal cymdeithasol. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn gyson ei chefnogaeth i ofal cymdeithasol dros yr wyth mlynedd diwethaf o galedi a lleihau cyllidebau. Mae'r ffigurau diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn dangos bod gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru 8 y cant yn uwch nag yn Lloegr ac yn tyfu'n gyflymach nag yn unrhyw ran arall o'r DU yn 2016-17. Ac, yn y gyllideb ddrafft yr ydym yn ei thrafod, bydd gofal cymdeithasol yn cael swm ychwanegol o £42 miliwn yn 2018-19, gan godi i £73 miliwn yn 2019-20. Mae hynny i'w groesawu, ond rwy'n ymwybodol o ddau faes datblygu polisi sy'n berthnasol: yn gyntaf, y cyfle i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, a gweithredu ar ganfyddiadau'r arolwg seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol y disgwylir ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gwneud hyn yn argymhelliad allweddol yn adroddiad y gyllideb ddrafft, ac yn galw am gynlluniau wedi eu prisio'n llawn er mwyn creu newidiadau a fydd yn trawsffurfio iechyd a gofal cymdeithasol.