5. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 4:51, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, dydy hynny ddim yn gynrychiolaeth gyfrifol o'r hyn a ddywedais, a dyma’r hyn a ddywedais: rydym yn gweithredu o fewn cyd-destun cyllideb Llywodraeth y DU sydd wedi gwneud toriadau didrugaredd, ac mae’r toriadau didrugaredd hynny wedi bwydo’n ôl i Lywodraeth Cymru. Rwy’n meddwl bod Nick Ramsay yn gwybod yn iawn mai dyna'n union beth yr wyf newydd ei ddweud.

Byddaf yn cefnogi'r gyllideb hon y prynhawn yma, oherwydd mae gennyf bob hyder yn Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r gyllideb y mae wedi’i rhoi at ei gilydd o dan yr amgylchiadau hyn yn driw i werthoedd Llafur Cymru ac yn adlewyrchu’r rhaglen lywodraethu, ac yn gwneud popeth a all i leihau effeithiau strategaeth Llywodraeth y DU. Mae'r cytundeb cyllideb hwn â Phlaid Cymru yn sicrhau sefydlogrwydd ariannol i Gymru dros y ddwy flynedd nesaf, rhywbeth sydd ei angen yn ddirfawr, o ystyried y cyni parhaus, ac am y rhesymau hyn byddaf yn pleidleisio o blaid y gyllideb heddiw.