5. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 5:04, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Dydw i ddim yn mynd i bleidleisio o blaid y gyllideb ddrafft hon. Dydw i ddim yn mynd i ymatal. Rwy’n mynd i bleidleisio yn erbyn. Mae'r gyllideb hon yn ddrwg.

Mae Cymru'n dal i wynebu ffioedd dysgu o £9,000. Ydyn ni i fod i fod yn ddiolchgar am hynny? Nid yw'n ddigon da o bell ffordd. Mae pobl yng Nghymru yn dal i gael eu troi allan o'u cartrefi oherwydd y dreth ystafell wely; y bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas yn cael eu taflu allan o'u cartrefi am y trosedd o fod ag ystafell wely ychwanegol. Does dim eiddo i’r bobl hyn symud i mewn iddo, hyd yn oed. Mae’r rhieni hynny sydd â phlant yn byw gyda hwy am ran o'r wythnos, neu ran o'r amser, yn gorfod colli’r ystafell wely ychwanegol, ac o ganlyniad, o dan rai amgylchiadau, maent yn colli cyswllt gyda'u plant oherwydd y dreth honno. Does dim byd yn y gyllideb hon i unioni hynny.

Ond wyddoch chi beth? Mae arian ar gael bob amser i gyfeillion Llafur yn y Bae; mae’n ymddangos eu bod nhw’n ennill eu bywoliaeth o anffawd pobl eraill.