Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Fe wnaf fy ngorau i osgoi ailadrodd unrhyw bwyntiau sydd eisoes wedi cael sylw. A gaf i, yn gyntaf oll, ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei adroddiad a'r cyflwyniad sobr iddo, sy'n cydnabod effaith ddifrifol toriadau’r DU ar ein cyllideb? Ym mharagraff 1.5, rydych chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru, er gwaethaf toriadau parhaus a difrifol i gyllideb Cymru o ganlyniad i agenda cyni niweidiol Llywodraeth y DU, wedi parhau i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rhag effeithiau gwaethaf cyni.
Yn eich amlinelliad, gwnaethoch chi hefyd gyfeirio at rai o'r amgylchiadau a oedd yn cael effaith arbennig ar economi Cymru fel rhan o economi'r DU: mae cyflogau’n gostwng ac yn is nawr nag yn 2010, mae twf cyflogau yr isaf yn Ewrop heblaw yng Ngwlad Groeg, mae twf a chynhyrchiant economaidd ar eu gwaethaf ers canrif, mae buddsoddiad y DU yn is na phob economi fawr arall ar wahân i Bortiwgal a Gwlad Groeg, ac mae llanastr Brexit yn achosi ansicrwydd i fusnesau a phobl. Ac yn ddiweddar rydym wedi trafod traed moch llwyr mater y DUP.
A gaf i gyferbynnu eich adroddiad ag adroddiad Trysorlys ei Mawrhydi, sydd, yn y cyd-destun economaidd, yn cadarnhau'r rhan fwyaf o'r pwyntiau hynny ynghylch yr adroddiadau economaidd digalon parhaus, hirdymor yr ydym wedi’u gweld? Ond yna, cymharwch hynny â chyflwyniad llai na sobr yr adroddiad, sy'n dweud,
Mae dyfodol disglair gan y Deyrnas Unedig. Bydd cryfderau sylfaenol economi’r DU yn cefnogi twf yn y tymor hir a bydd y Gyllideb yn sicrhau y gall pob cenhedlaeth edrych ymlaen at safon byw well na’r un o’i blaen.
Mae'n gwneud ichi feddwl tybed a gafodd yr adroddiad hwnnw ei ysgrifennu mewn dwy ran—y rhan gyntaf gan y Canghellor a'r ail ran gan bobl a oedd wir yn gwybod rhywbeth am yr hyn a oedd yn digwydd yn yr economi.
Un o'r pwyntiau yr oeddwn i wir eisiau siarad amdanyn nhw, fodd bynnag, oedd yr effaith ar y sector cyhoeddus a chap cyflogau’r sector cyhoeddus. Mae hyn yn effeithio’n arbennig ar fy etholaeth i, sef Pontypridd, oherwydd mae gennym ni oddeutu 15,000 o weithwyr y sector cyhoeddus yn fy etholaeth i, ac nid yw’r mwyafrif llethol ohonynt wedi cael codiad cyflog o unrhyw bwys o gwbl ers tua degawd. Yr effaith net yw, erbyn 2022, o ganlyniad i raglen cyni Llywodraeth y DU, y bydd nyrsys a diffoddwyr tân yn cael £3,400 y flwyddyn yn llai mewn termau real, llyfrgellwyr £2,100, parafeddygon a dietegwyr £3,800, yr heddlu £450 y flwyddyn yn llai, a swyddogion carchar £980 y flwyddyn yn llai. Mae un o'm hetholwyr, Shirley Nicholls, nyrs GIG Cymru ers 30 mlynedd, yn dweud hyn:
'Rwy’n teimlo ein bod yn cael ein gwasgu flwyddyn ar ôl blwyddyn gan gyni. Ni all llawer gael deupen llinyn ynghyd. Mae llawer yn gadael. Mae morâl yn isel. Mae'n ymddangos mai dim ond y bobl dlotaf sy’n gorfod talu am gyni. Mae arnaf ofn, os nad yw San Steffan yn dod a'r cap cyflog i ben ac yn rhoi terfyn ar gyni, na wnaiff ein GIG a’n gwasanaethau cyhoeddus oroesi.'
Byddwn yn gofyn ichi ystyried, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes mwy y gallwn ni ei wneud i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i wneud dyfarniadau cyrff tâl statudol yn rhwymol, oherwydd mae’n ymddangos i mi mai dyna’r gwendid sylfaenol—ein bod yn gosod corff i bennu cyflog, ond bod Llywodraeth y DU yna’n gwrthod talu hynny mewn gwirionedd.
A gaf i wedyn gyfeirio at nifer o faterion yng Nghyllideb Cymru yr hoffwn i roi rhywfaint o ystyriaeth iddyn nhw? Y cyntaf yw’r rhaglen cyfleusterau cymunedol. Rwy’n croesawu’n fawr y £6 miliwn ychwanegol a’r cynyddiadau pellach yn y blynyddoedd dilynol i'r rhaglen hon. Mae'n rhaglen sydd wedi cael effaith sylweddol yn fy etholaeth, gyda'r prosiect chwaraeon Glowyr Cwm Elái a'r Eglwys Bywyd Newydd, sy'n darparu amrywiaeth eang o raglenni cymorth cymunedol. Mae’n ymddangos bod y rhain i gyd, sydd wedi ysgogi arian arall, yn ffordd effeithiol iawn o ddefnyddio blaenoriaethau trechu tlodi Llywodraeth Cymru, ac rwyf wir yn meddwl tybed, pe gellid rhoi ystyriaeth bellach i unrhyw arian ychwanegol, sut y gallai hynny ddigwydd mewn gwirionedd.
Mae’r ail bwynt yr wyf yn gofyn ichi ei ystyried, a dweud y gwir, yn ymwneud â’r adran sydd gennych yn yr adroddiad ar y metro, a sut y gallai hynny effeithio ar yr arian Ewropeaidd sydd ar gael, ond hefyd y benthyca sydd ar gael gan Fanc Buddsoddi Ewrop, a sut y gallai hyn effeithio ar rai o'r prosiectau sydd eu heisiau arnom yn y metro, fel y llinell newydd arfaethedig i Lantrisant yn fy etholaeth i.
A gaf i wneud un pwynt olaf arall, ynglŷn ag ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, i groesawu'r buddsoddiad £1.4 biliwn? Ond a dweud y gwir mae i longyfarch cyngor Rhondda Cynon Taf, sydd eisoes wedi buddsoddi £200 miliwn o dan y rhaglen hon, ac sy’n cynllunio buddsoddi £300 miliwn arall, gan drawsnewid strwythur cyfleusterau addysg yn sylweddol o ganlyniad i hyn. Bydd yn golygu, mewn degawd yn Rhondda Cynon Taf, y bydd y cyngor wedi buddsoddi bron i £0.5 biliwn mewn cyfleusterau addysgol. Mae hynny'n llwyddiant anhygoel, rwy'n meddwl, a dylid cydnabod hynny.
Un pwynt olaf, wedyn, am drethi newydd, Ysgrifennydd y Cabinet. Tybed a allai fod cyfle nawr, wrth ichi ystyried eitemau ar gyfer trethi newydd, i ystyried atgyfodi'r Bil asbestos?