6. Dadl: Ansawdd Aer

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:41, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Cynigiaf y gwelliant, Dirprwy Lywydd. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae ansawdd amgylchynol yr aer yn y DU ar y cyfan, wedi gwella'n gyson dros y degawdau diweddar, yn bennaf o ganlyniad i leihad mewn allyriadau diwydiannol a gwell rheoleiddio a datblygiadau technolegol mewn tanwydd cerbydau glân a pheiriannau mwy effeithlon. Ond mae'n drasiedi fawr, mewn gwirionedd, o ystyried bod ansawdd aer yn gwella ar y cyfan, bod gennym ni broblemau gwirioneddol o hyd, ac mae llawer o'r enillion yn cael eu gwrthbwyso gan y nifer gynyddol o gerbydau ar y ffyrdd, ac maen nhw yn aml yn crynhoi mewn ardaloedd difreintiedig iawn, fel y mae Simon newydd ei amlinellu. Rwy'n credu felly bod angen inni ddychwelyd at hyn a chael dull wedi'i dargedu, ymagwedd leol iawn, ac i sylweddoli pa mor integredig yw hyn â rhai o'r ffactorau ehangach fel amddifadedd—a hefyd y materion iechyd, sy'n amlwg iawn, yn fy marn i, ac ni wnaf eu hailadrodd, gan fod Simon wedi nodi hynny. Ond dim ond i ddweud, yn ogystal â'r costau unigol ofnadwy, mae'r costau cymdeithasol a amcangyfrifwyd gan DEFRA yn sylweddol iawn, sef cyfanswm bob blwyddyn o rywbeth fel £27.5 biliwn. Amcangyfrifir bod gronynnau ar eu pennau eu hunain yn £16 biliwn y flwyddyn, felly mae'n amlwg bod angen inni gymryd camau yn y fan yma mewn modd grymus iawn.

A gaf i ddweud bod gwelliant y Ceidwadwyr, yn fy marn i, yn angenrheidiol? Dim ond oherwydd bod pwynt 3 y cynnig hwn, yn fy marn i, ychydig yn anfoddog ac yn anghydweithredol o ran ei nod. Felly, rwy'n ceisio unioni hynny, oherwydd bod angen ymdrech gydgysylltiedig arnom ar draws y pleidiau ac ar draws y Llywodraeth, yr oedd, er tegwch i'r Gweinidog, tôn ei haraith yn ei adlewyrchu. Byddem yn croesawu'r prif fesurau yn fawr fel cael gwared ar geir a faniau petrol a diesel newydd yn raddol erbyn 2040. Dylem ni fod yn annog partneriaeth gyda hynny, gan sicrhau ei fod yn cael ei orfodi yn effeithiol ac, o bosibl, wrth i'r farn gyhoeddus efallai ddod yn fwy grymus hefyd a heriol, yna gallem ni hyd yn oed wneud ychydig yn well na'r targedau. Felly, yn gyffredinol, rwy'n credu bod angen inni adlewyrchu'r gwaith sydd wedi'i wneud mewn ffordd arloesol iawn gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu mai hi yw'r cyntaf i gyhoeddi'r targedau hyn, ac rwy'n credu mai dyna'r math o weledigaeth y dylem ni fod yn ei hailadrodd yn y meysydd sydd o dan ein rheolaeth.

Yn gyffredinol, rwy'n croesawu gwelliannau Plaid Cymru, ar wahân i'r gwelliant olaf, a byddwn ni'n ymatal ar hwnnw oherwydd ei dôn hunanglodforus, gan nad ydym yn arbennig eisiau bod felly—[torri ar draws.] Roeddwn i o'r farn bod y gwelliannau eraill yn eithaf adeiladol; gwelliant 1 yn ailadrodd y pwyntiau hynny ynghylch yr agweddau ar iechyd y cyhoedd. Roeddwn i'n meddwl yn arbennig bod gwelliant 4 yn ddefnyddiol, o ran rheoli ansawdd aer o amgylch ysgolion. Os edrychwch chi ar amlygiad plant i lygredd aer difrifol ac effeithiau hynny, mae'n codi cryn bryder. Rwy'n gwybod bod cais rhyddid gwybodaeth diweddar a gyflwynwyd gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint i awdurdodau lleol wedi canfod nad oedd 57 y cant ohonyn nhw'n monitro llygredd aer o fewn 10m i ysgolion. Nawr, mae honno'n broblem ledled y DU—rwy'n derbyn nad dim ond yng Nghymru y mae hyn. Ond rwy'n credu bod hynny'n arwydd clir iawn o'r hyn y dylem ni fod yn ei wneud, mewn gwirionedd, i sicrhau ein bod ni'n gwella safonau ac yn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn benodol.

Cyn imi gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i sôn yn gyflym am swyddogaeth trefi a dinasoedd yn yr ymdrechion hyn? Mae ardaloedd trefol Cymru yn rheng flaen y frwydr i leihau allyriadau ac i wella ansawdd aer. Rwyf wedi cydnabod hyn ers amser maith ac wedi galw am fesurau mwy sylweddol i fynd i'r afael â hyn. Rwy'n falch bod hyn yn llawer uwch ar yr agenda erbyn hyn. Roedd dadl leiafrifol Geidwadol ar hyn yn gynnar iawn yn y Cynulliad hwn, yn ystod haf 2016, gan nad oedd wedi ei grybwyll yn y rhaglen lywodraethu—ansawdd aer—ac roeddem ni'n bryderus iawn am hynny. Felly, fe wnaethom godi'r mater bryd hynny. Er tegwch i Lywodraeth Cymru, maen nhw wedi rhoi mwy o sylw iddo, ond rwy'n credu bod rhai pwyntiau perthnasol iawn sydd eisoes wedi'u gwneud gan Simon am yr angen i sefydlu targedau nawr.

Adroddodd pum tref a dinas yng Nghymru—Port Talbot, Cas-gwent, Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe—lefelau anghyfreithlon a niweidiol o lygredd aer yn 2016, ac nid yw hi'n anodd gweld pam, a'r math o gamau y mae eu hangen arnom o ran lleihau'r defnydd o geir a mwy o gynlluniau teithio llesol. Mae'r broblem sydd gennym o allyriadau cerbydau yn fater tra phwysig, a dyma sy'n gyfrifol am tua 70 y cant o'r llygryddion yn yr aer. Rwy'n falch o weld un neu ddau o ddatganiadau barn ar hyn, ac rwyf i wedi gosod un yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal cynllun treialu parth aer glân yng Nghaerdydd. Rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn. Hyd yma, mae swyddogaeth arweiniol awdurdodau lleol wedi bod yn rhan amlwg o'r polisi ansawdd aer, ond mae'n rhaid inni hefyd gydnabod yr angen am arweiniad cenedlaethol. Rydym ni wedi gweld hynny gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu bod angen inni weld mwy erbyn hyn gan Lywodraeth Cymru, ond byddant yn cael ein cydweithrediad pan fyddant yn gwneud y peth iawn.

Er ein bod wedi gwella'r cynnig, rwy'n siŵr y byddwn yn cefnogi beth bynnag y bydd y Cynulliad yn ei fabwysiadu y prynhawn yma yn y ddadl bwysig hon. Diolch.