6. Dadl: Ansawdd Aer

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 5 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 6:08, 5 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

'Nid oes unrhyw un heddiw a fyddai’n amau bod llygredd aer yn ddrwg cymdeithasol ac, o fod yn ddrwg cymdeithasol, y dylid delio ag ef ar unwaith ac yn sylweddol.'

Dyna eiriau Gordon Macdonald, cyn-löwr, AS a Llywodraethwr Newfoundland a aned yn Sir y Fflint. Roedd Macdonald yn siarad yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond roedd yn gwneud hynny yn 1955. Fel y dengys ei eiriau, nid yw cydnabod peryglon llygredd aer yn beth newydd. Yn bennaf ymhlith y peryglon hyn mae effaith llygredd aer ar ein hiechyd corfforol, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn drwy gysylltu'r ddau fater yn ei strategaeth genedlaethol.

Efallai y bydd Aelodau wedi gweld y papur briffio gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru sy'n cynnwys y gwir plaen am y peth. Mae llygredd aer yn gysylltiedig â chanser yr ysgyfaint, a  gweithrediad yr ysgyfaint salach i bobl ag asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae cysylltiadau wedi'u gwneud rhwng llygredd aer a chlefyd cardiofasgwlaidd, dirywiad gwybyddol a diabetes math 2. Mae plant yn arbennig yn wynebu risg, gan fod llygredd yn yr aer yn effeithio ar ddatblygiad ac ymwrthedd i heintiau.

Gellir priodoli bron i 1,300 o farwolaethau cynnar y flwyddyn yng Nghymru i lygredd aer. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi disgrifio hyn fel argyfwng iechyd cyhoeddus, yn ail dim ond i ysmygu ac sy'n achosi mwy o bryder na gordewdra na alcohol. Mae gennym ymwybyddiaeth gyhoeddus dda o'r peryglon hyn, gan eu bod wedi'u hategu gan ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus o'r radd flaenaf. Mae'n rhaid i lygredd aer fod yn flaenoriaeth debyg, ac rwy'n croesawu pwynt 2(d) y cynnig, sy'n ymrwymo'r Llywodraeth i fynd i'r afael â hyn. Croesawaf hefyd welliant 3 Plaid Cymru, gan fod gan fyrddau iechyd swyddogaeth allweddol i'w chyflawni o ran hyn yn lleol.

Hefyd, mae elfen cyfiawnder cymdeithasol pwysig i'r mater hwn, gan mai'r cymunedau tlotaf sy'n dioddef fwyaf o lygredd aer. Yn wir, mae'r 10 y cant o'r rhannau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan bum gwaith cymaint o allyriadau carsinogenig na'r 10 y cant lleiaf difreintiedig. Daeth astudiaeth yn y Journal of Public Health yn 2016 a ddyfynnwyd gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint i'r casgliad bod amddifadedd, anghydraddoldebau iechyd a llygredd aer yn gysylltiedig, a bod llygredd aer yn dwysáu cysylltiadau rhwng amddifadedd ac iechyd.

Unwaith eto, nid yw hyn yn rhywbeth newydd. Os awn ni yn ôl at araith Gordon Macdonald, cyfeiriodd at y daith i gymoedd de Cymru. Disgrifiodd gwm cul, yn cynnwys dwy ffordd gyfochrog a rheilffordd. Mewn ardal 2 erw, nododd saith simdde dal yn gollwng mwg trwchus. Ar y rheilffordd roedd tair injan rheilffordd yn cystadlu â'i gilydd, yn ceisio gollwng mwy o fwg na'r saith simdde; ac roedd y cannoedd o dai glowyr yn curo'r ddau o ran gollwng mwg i mewn i'r cwm cul hwn.

Bydd hon yn ddelwedd gyfarwydd i unrhyw un a fagwyd mewn rhannau diwydiannol o Gymru. Yng Nghwm Cynon, troseddwr penodol oedd y gwaith glo caled yn Abercwmboi. Yn ei anterth, roedd yn cynhyrchu 1 filiwn o frics o lo di-fwg bob blwyddyn. Roedd glo stêm Cymru yn cael ei wasgu a'i gyfuno â thar a gâi wedyn ei gynhesu i waredu'r rhan fwyaf o'r mwg.

Er i'r cymunedau mwy cefnog hynny mewn mannau eraill o'r DU, a allai ei fforddio, elwa ar y glo caled, cafodd effaith ofnadwy ar y gymuned leol. Nhw a ddioddefodd o'r llwch, y mwg a'r mygdarth a ollyngwyd i'r atmosffer. Mae llawer o'm hetholwyr i a oedd yn gweithio yno yn parhau i deimlo effeithiau'r afiechyd sy'n gysylltiedig â hynny.

Mae'r diwydiant trwm a oedd wedi'i gysylltu'n fwyaf agos â'r llygredd aer hwn wedi diflannu i raddau helaeth erbyn hyn. Mae ei absenoldeb wedi arwain at welliannau amgylcheddol; mae'r gwyrddni toreithiog trwy ran helaeth o'r Cymoedd yn dyst i hyn. Ar yr un pryd, rydym hefyd wedi rhoi mwy o bwys ar ddiogelu ein hamgylchedd. Cynorthwywyd hyn gan ddatblygu deddfwriaeth fwy aeddfed ac empathig gan bob lefel o lywodraeth. Ond mae ffactorau niweidiol o hyd y mae'n rhaid inni roi sylw iddyn nhw.

Cyflwynais ddatganiad barn ar hyn ychydig wythnosau yn ôl. Ynddo, roeddwn yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhwydwaith o barthau aer glân ar draws ardaloedd mwyaf llygredig Cymru. Rwy'n falch bod rhan 2(a) o'r cynnig yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i hyn. Edrychaf ymlaen at yr ymgynghoriad ar y fframwaith a fydd yn sail i'r cynllun aer glân pan fydd ar gael y flwyddyn nesaf. Mae'n rhaid inni hefyd gydnabod bod hwn yn fater lle na all ein pryderon a'n hymyrraeth ddod i ben ar ein ffiniau. Mae llawer o'r offerynnau angenrheidiol i wella ein haer mewn mannau eraill, mewn gwirionedd. Roedd fy natganiad barn yn galw hefyd ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r galwadau ar Lywodraeth y DU i ddatblygu cynllun sgrapio diesel. Mae'n dda bod pwynt 3 y cynnig yn ymdrin â hyn, ac mewn gwirionedd yn mynd y tu hwnt iddo wrth alw am system o gerrig milltir er mwyn i ni allu monitro cynnydd.

Ni allwn anghofio bod gennym lawer o gynnydd i'w wneud o hyd. Mae llygredd aer yn y DU yn costio £20 biliwn y flwyddyn, a channoedd o fywydau yng Nghymru yn unig. Mae deddfwriaeth arloesol fel Deddf yr amgylchedd a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cynnig fframwaith cryf, cadarnhaol. Ond wrth i ni dynnu allan o Ewrop a'r swyddogaeth sylweddol a fu gan Ewrop yn y maes hwn dros y degawdau diwethaf, ni all ein penderfynoldeb wanhau ac mae'n rhaid inni ymdrechu i wneud gwelliannau parhaus.