Bil Masnach Llywodraeth y DU

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:32, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yn amlwg, mae caffael cyhoeddus yn fwy cyffredinol yn ddull pwysig sydd gennych fel Llywodraeth o ysgogi economïau lleol. Cyflwynodd Llywodraeth flaenorol Cymru y fframwaith caffael cyhoeddus cenedlaethol, a oedd yn caniatáu i fusnesau llai, yn amlwg, sicrhau cyfran fwy o'r cynnig caffael cyhoeddus. Rwyf wedi cael llawer o sylwadau fod busnesau o'r farn fod y rhwydwaith caffael hwn yn drafferthus iawn, a chredaf fod Gweinidogion y Llywodraeth wedi nodi na fu'n gymaint o lwyddiant, yn amlwg, â'r hyn a obeithiwyd. Pa asesiad rydych wedi'i wneud o'r fframwaith hwnnw, a pha welliannau rydych yn bwriadu eu gwneud i ganiatáu i fusnesau bach a chanolig gael cyfran fwy o'r cynnig caffael cyhoeddus?