Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Nid wyf am ragdybio safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn, Lywydd, gan fod angen meddwl yn drwy hynny'n briodol, ond ymddengys i mi ei bod yn annhebygol, heb rai o'r newidiadau yr awgrymwyd bod Llywodraeth y DU yn barod i'w hystyried, y byddem mewn sefyllfa i gynnig cynnig cydsyniad deddfwriaethol y gallem ei gefnogi ar y Bil hwn am yr un rhesymau â'r Bil blaenorol. A yw hynny'n gyfystyr â feto yn y ffordd yr awgrymodd Adam Price? Wel, ddim yn hollol, mae'n debyg.