Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Lywydd, rwyf wedi bod yn gohebu'n ddiweddar iawn gyda Banc Buddsoddi Ewrop ar ran rhai buddiannau Cymreig pwysig rydym yn awyddus i barhau â hwy. Rydym bob amser wedi cael perthynas agos iawn gyda Banc Buddsoddi Ewrop. Cyfarfu Adam Price a minnau â Jonathan Taylor, uwch is-lywydd Banc Buddsoddi Ewrop, pan oedd yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf. Credaf ei bod yn deg dweud, Lywydd, o safbwynt Banc Buddsoddi Ewrop, eu bod yn parhau i ganolbwyntio ar eu perthynas gyda'r aelod-wladwriaeth yn hytrach na Chymru fel endid cyfansoddiadol ar wahân. Nid yw hynny'n golygu nad ydym yn mynd ar drywydd buddiannau Cymru gyda hwy. Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn ymwybodol iawn o Fanc Datblygu Cyngor Ewrop, ond rwy'n fwy na pharod i ddweud y byddwn yn edrych arno fel Llywodraeth i weld a oes posibiliadau newydd i ni yn hynny o beth yng nghyd-destun Brexit.