Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Wel, rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Prydain wedi newid ei meddwl erbyn yr adeg hon yr wythnos nesaf ar y pwynt hwnnw a sawl pwynt arall, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych yn sôn am archwilio'r opsiynau posibl a fydd ar gael ar ôl ymadael. Tybed a oes un o'r opsiynau hynny rydych wedi eu harchwilio fel Llywodraeth yn cynnwys perthynas uniongyrchol rhwng Cymru a Llywodraeth Cymru a Banc Buddsoddi Ewrop. Mae hyn yn ddigynsail, wrth gwrs, ond mae hwn yn gyfnod digynsail, ac mae Banc Datblygu Cyngor Ewrop yn opsiwn arall, wrth gwrs, er nad yw'r DU erioed wedi bod yn aelod ohono, ond mae ei nodau a'i amcanion yn cyd-fynd yn agos iawn ag anghenion a dyheadau'r wlad hon. A yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried ac archwilio'r opsiynau i gael perthynas ddwyochrog rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau o'r fath ar ôl ymadael, a pha un a fyddai angen nawdd arnynt gan Lywodraeth y DU, ac yn y blaen?