Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
O'r gorau. Wel, diolch am yr ateb hwnnw hefyd, gan ei fod yn rhoi rhywfaint o syniad i mi o ran yr amseru. Y mis diwethaf, ar ôl dadl ar dreth dwristiaeth bosibl yng nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr, dywedodd yr aelod cabinet Llafur ar gyfer adfywio yno,
Fel deiliad portffolio twristiaeth y cabinet, byddwn yn dweud mai hwn yw'r lleiaf tebygol o opsiynau Llywodraeth Cymru ar gyfer treth newydd i gael ei groesawu ledled Cymru.
Ac aeth yn ei flaen i ddweud,
Credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl o blaid y cynnig arall sef treth ar blastigau tafladwy.
Dywedodd arweinydd Llafur cyngor Abertawe heddiw ei fod yn ffafrio treth ar ofal cymdeithasol. Pan fo arweinwyr Llafur yn fy rhanbarth eisoes yn gwrthod y syniad o dreth dwristiaeth, oni fyddai'n syniad da arbed arian drwy beidio â datblygu'r syniad hwnnw a chanolbwyntio ar y tri opsiwn arall?